MANYLION
  • Posted by: Educators Wales

Blog Llesiant a Meddwlgarwch

Blog Llesiant a Meddwlgarwch

Y dyddiau yma gall meddwlgarwch fod yn arf i ni pan mae’n dod i reoli ein iechyd meddwl a’n llesiant. Mae meddwlgarwch yn allweddol pan mae’n dod i reoli straen a gorbryder yn y gweithle ac yn y cartref. Ond beth yw straen a sut all meddwlgarwch ein helpu i wella ein llesiant?

Beth yw Straen?

Mae Mind Cymru yn diffinio straen fel “sut yr ydym yn ymateb pan rydym yn teimlo dan bwysau neu dan fygythiad. Mae fel arfer yn digwydd pan rydym mewn sefyllfa ble nid ydym yn teimlo y gallwn ei reoli.”

Tra bod rhai mathau o straen lefel-isel yn fanteisiol, gall gormod ohono effeithio sut ydym ni’n teimlo, ein corff a’n perthnasau. Gall straen sydd yn teimlo allan o’n rheolaeth arwain at deimladau o orbryder, sensitifedd a gall effeithio yn negyddol ar ein gallu i weithio. 

Mae profi llawer o straen dros gyfnod hir hefyd yn medru arwain at deimladau o flinder corfforol, meddyliol ac emosiynol, sydd hefyd yn cael ei alw’n losgi allan neu ‘burnout’.

Picture of Dance class

10 Arwydd ei bod yn Amser i gadw llygad ar eich Llesiant

Tra bod arwyddion a symptomau yn medru amrywio o berson i berson, mae ambell i arwydd i gadw llygad arnynt sydd yn dangos bod rhaid i chi fod yn fwy meddylgar am eich iechyd meddwl. Rydych:

  1. Yn teimlo eich bod wedi’ch gorlwytho
  2. Yn cael trafferth canolbwyntio
  3. Fel arfer yn teimlo’n bigog
  4. Teimlo pryder, gorbryder ac ofn cyson
  5. Yn diffyg hunan-hyder neu yn ail-feddwl eich dewisiadau
  6. Yn Teimlo blinder mawr trwy’r amser
  7. Yn cael trafferth cysgu
  8. Yn dewis osgoi pobl neu sefyllfaoedd yr ydych yn cael trafferth gyda nhw
  9. Yn bwyta llawer mwy neu llawer llai nag arfer
  10. Yn yfed, ysmygu neu yn camddefnyddio sylweddau i ymdopi 

Bydd pob person yn delio gyda theimladau negyddol mewn ffordd wahanol ac mae gan bawb lefel gwahanol o oddefiant ar gyfer teimladau negyddol. Er enghraifft, efallai bod rhywbeth sydd yn achosi straen sylweddol i chi ddim yn achosi straen i’ch ffrind neu gydweithiwr, fodd bynnag; gall sefyllfa yr ydych yn ei gweld yn eithaf hawdd fod yn anodd i rywun arall ddelio â hi.

Dyna pam ei bod yn hanfodol bod gennym strategaethau meddwlgarwch mewn lle i reoli’r emosiynau negyddol hyn a chefnogi ein llesiant.

10 Sefyllfa ble mae Strategaethau Meddwlgarwch yn gallu Helpu 

Yn aml, y sefyllfaoedd sydd yn effeithio ein iechyd meddwl yw’r rhai yr ydym yn teimlo nad oes gennym yr adnoddau neu’r gefnogaeth sydd angen i reoli’r heriau, neu’r llwyth gwaith sy’n ein wynebu. Gall rhai sefyllfaoedd gynnwys: 

  1. Pwysau yn y gwaith neu gartref
  2. Digwyddiadau bywyd anodd annisgwyl
  3. Anawsterau yn ein bywydau personol a pherthnasau
  4. Anawsterau yn ein amgylchedd proffesiynol
  5. Newidiadau bywyd mawr neu annisgwyl 
  6. Trafferthion ariannol
  7. Problemau iechyd, unai eich hun neu rhywun sy’n agos i chi
  8. Beichiogrwydd a phlant 
  9. Problemau gyda’r cartref, megis cyflwr, tenantiaeth neu gynnal a chadw 
  10. Teimlo’n unig, heb eich cefnogi neu yn ynysig

Yr allwedd i reoli y sefyllfaoedd hyn yw i fod yn fwy meddylgar felly gallwn gydnabod pan rydym yn teimlo teimladau negyddol a chael cynllun am sut i ymateb iddynt.

picture of music classroom

Ffyrdd i fod yn Fwy Meddylgar

Mae’n bwysig iawn i gofio nad yw straen o reidrwydd yn emosiwn drwg ac y gall ein helpu i gadw at derfynau amser, ein galluogi i reoli ein amser yn well ac i gyrraedd ein nodau. Mae’n troi yn emosiwn negyddol pan nad ydym yn medru ei reoli yn gorfforol; a all arwain at flinder, llosgi allan ac emosiynau negyddol eraill. 

Mae’n bwysig eich bod yn medru deall pan rydych yn profi lefelau uchel o straen a chymryd camau i fod yn fwy meddylgar a’i reoli. Mae’r meddwlgarwch hwn yn disgyn i ddau gategori gwahanol: 

  1. Meddwlgarwch yn y gweithle pan mae gennych waith i’w gwblhau
  2. Meddwlgarwch y tu allan i’r gweithle pan mae angen i chi ymlacio ac ailfagu eich nerth 

Strategaethau Meddwlgarwch yn y Gweithle

I ddechrau, mae’n hollbwysig ein bod yn medru bod yn feddylgar pan rydym yn gweithio i gynnal ein cynhyrchiant a pharhau i gyrraedd terfynau amser a chwblhau llwyth gwaith. Acronym poblogaidd ar gyfer rheoli straen yw PIP (SAB) sydd yn golygu: 

P – Pause (Saib)

I – Identify (Adnabod)

P – Prioritise (Blaenoriaethu)

Gall PIP (SAB) ei deffnyddio i reoli sefyllfaoedd anodd drwy feddwlgarwch. Rydych yn stopio, cymryd stoc, ac yn blaenoriaethu yr eitemau ar eich rhestr o bethau i’w gwneud sydd yn eitemau brys, gan adael y rhai llai pwysig ar gyfer ymhellach ymlaen. 

Meddwlgarwch y Tu Allan i’r Gweithle

Mae hefyd yn bwysig i chi gael mecanweithiau ymdopi mewn lle er mwyn gadael y gwaith ar ôl yn feddylgar ar ddiwedd y dydd, er mwyn i chi gael ymlacio. Dyma rai argymhellion syml y gallwch eu cyflwyno i’ch bywyd dydd-i-ddydd i reoli eich llesiant yn well:  

  • Hydradu a bwyta: Gwnewch yn siwr eich bod yn yfed dŵr a bwyta pryd neu fyrbryd maethlon bob ychydig o oriau
  • Ymarfer corff: Ewch am dro y tu allan, dringwch lawr o risiau, neu cymrwch ran mewn dosbarth ioga neu unrhyw fath o ymarfer corff sydd yn rhyddhau endorffinau fydd yn eich helpu i reoli eich llesiant 
  • Cymrwch egwyl: Cymrwch egwyl o’ch desg ac o sgriniau. Os ydych yn cael trafferth cysgu ceisiwch roi eich ffôn o’r ffordd am 30 munud cyn cysgu 
  • Anadl: Cymrwch anadl trwm, araf i mewn drwy eich trwyn ac allan drwy eich ceg 
  • Cysylltu: siaradwch gyda rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt a chysylltwch gyda’ch ffrindiau a’ch teulu 

Mae’r argymhellion hyn hefyd yn berffaith ar gyfer plant a phobl ifanc sydd eisiau meistroli pŵer meddwlgarwch er mwyn gwella eu iechyd meddwl a’u llesiant. 

Picture of movement classroom

10 Ffordd i ddod â Meddwlgarwch i’r Dosbarth 

Fel addysgwyr, mae’n bwysig i arwain drwy esiampl ac i arddangos y strategaethau meddwlgarwch hyn yn awyrgylch ein dysgwyr i ddysgu sut y gallant hwy reoli eu iechyd meddwl a’u llesiant eu hunain. Dyma rai enghreifftiau am sut i annog eich dysgwyr i fod yn fwy meddylgar:

  1. Annog dysgwyr i gadw dyddiadur ac i fod yn onest am yr emosiynau y maent yn eu teimlo 
  2. Cyflwyno technegau anadlu a myfyrdod i’r dosbarth 
  3. Annog dulliau creadigol i ddysgwyr fynegi eu hunain megis celf, dawns, cerddoriaeth ac ysgrifennu 
  4. Mae ioga ac ymestyn yn ffyrdd gwych i ddysgu sut i adnabod tensiwn cyhyrog yn y corff 
  5. Annog dysgwyr i wrando ar ei gilydd ac i fyfyrio ar yr hyn y mae eu cyfeillion wedi ei rannu
  6. Mae rhestru pethau yr ydym yn ddiolchgar amdanynt yn ffordd wych o ddysgu am ddiolchgarwch 
  7. Gwneud gweithgareddau sydd ddim yn gysylltiedig â sgriniau, annog gemau a gweithgareddau creadigol 
  8. Siarad yn agored am emosiynau gwahanol 
  9. Sefydlu gofod diogel i ddysgwyr fynd pan mae arnynt angen rhywun i siarad â nhw 
  10. Modelu yr ymddygiadau da hyn o flaen y dysgwyr yn eich dosbarth

Mae meddlgarwch yn mynd yn bell wrth sicrhau bod gan dysgwyr ac athrawon fel ei gilydd strategaethau i reoli eu iechyd meddwl a’u llesiant yn well.

 

Am ragor o awgrymiadau meddwlgarwch lawrlwythwch ein poster Meddwlgarwch, yr adnodd perffaith i annog pawb i ymarfer meddwlgarwch i gefnogi eich iechyd meddwl a’ch llesiant yn well!