Addysga yn yr iaith ti’n ei charu.
Mae ysgolion uwchradd Cymru angen mwy o athrawon i addysgu'r pwnc maen nhw'n ei garu yn y Gymraeg.
Der â dy ddiwylliant a dy gymuned i'r ystafell ddosbarth. Rwyt ti mewn sefyllfa unigryw i gyfrannu tuag at dargedau Cymraeg 2050 o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Dechreua ar dy yrfa addysgu yn ennill £32,400 y flwyddyn, a hyd at £49,900 fel athro dosbarth. Datblyga dy yrfa i fod yn Bennaeth er mwyn ennill hyd at £140,600 y flwyddyn.
Ac mae hyd yn oed mwy o gefnogaeth ar gael – o gyllid, dysgu proffesiynol, a chyfleoedd i wella dy sgiliau Cymraeg. Cer i'r dudalen hon i gael gwybod mwy, yn Saesneg.
SUT I DDOD YN ATHRO/ATHRAWES
Mae yna sawl ffordd o hyfforddi i addysgu. Dewisa’r llwybr sy'n dy siwtio di. Mae'n bosibl astudio'n llawn amser, yn rhan-amser neu ar y llwybr cyflogedig. A gelli eu hastudio i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae modd astudio ar gyfer Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn prifysgolion ledled Cymru, gyda rhaglenni AGA llawn-amser ar gael drwy:
• Prifysgol De Cymru (PDC) – cynradd yn unig
• Yr Athrofa (Prifysgol Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin ac Abertawe)
Angen mwy o hyblygrwydd? Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig TAR rhan-amser, a TAR Cyflogedig ble y gelli hyfforddi tra dy fod yn gweithio mewn ysgol.
CYMORTH ARIANNOL
Eisiau addysgu yn y Gymraeg? Gallet fod yn gymwys i dderbyn cymelliadau ariannol i dy gefnogi wrth hyfforddi:
- £5,000 i astudio i addysgu uwchradd yn y Gymraeg, HEFYD gallai dy brifysgol gynnig eu cefnogaeth eu hunain i addysgu yn y Gymraeg
- £15,000 i astudio i addysgu Pwnc â Blaenoriaeth uwchradd
- £5,000 i athrawon dan hyfforddiant o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Os wyt ti’n cwblhau tair blynedd o addysgu uwchradd yn y Gymraeg, gallet dderbyn bwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg o £5,000.
Mae gwybodaeth am gyllid ar gyfer rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) i’w gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
GWELLA DY GYMRAEG WRTH I TI ADDYSGU
Mae Cymru angen unigolion angerddol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf yn y Gymraeg.
Mae angen athrawon sy’n medru defnyddio’r Gymraeg ar bob lefel – yn rhugl, ychydig yn rhydlyd, yn brin o hyder, neu'n ddysgwyr – ac sy'n angerddol am ddefnyddio'r iaith pan fo’r modd.
Mae cyfleoedd i wella dy sgiliau Cymraeg tra’n addysgu, ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd i garu'r iaith hefyd.
Dysgu Cymraeg wrth i ti addysgu:
- Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg ar gyfer ymarferwyr addysg
- Mae’r Cyrsiau Dysgu Cymraeg am ddim i Weithwyr Addysg
- Mae consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn darparu ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol i ddatblygu dy sgiliau Cymraeg.
CYMWYSTERAU SYDD EU HANGEN
Er mwyn hyfforddi i addysgu yng Nghymru, mae angen y canlynol:
- C mewn TGAU Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg, neu radd sy’n gyfwerth.
- C mewn TGAU Gwyddoniaeth ar gyfer athrawon cynradd hefyd.
- A gradd addas o brifysgol i wneud cais am raglen TAR.
I addysgu yn y Gymraeg, bod yn angerddol dros yr iaith yw’r unig beth sydd ei angen arnat ti – mae cyfleoedd ar gael i bob athro/athrawes yng Nghymru wella eu sgiliau Cymraeg.
Gall dy brifysgol gynnig arweiniad ar gymwysterau perthnasol a chymhwysedd penodol ar gyfer AGA.
PAM ADDYSGU YNG NGHYMRU?
Der â dy angerdd i mewn i’r ystafell ddosbarth o dan y Cwricwlwm i Gymru.
Mae Cymru angen mwy o athrawon uwchradd, yn enwedig mewn pynciau â blaenoriaeth ar gyfer recriwtio:
- Bioleg
- Cemeg
- Dylunio a Thechnoleg
- Technoleg Gwybodaeth
- Mathemateg
- Ieithoedd Tramor Modern
- Ffiseg
- Cymraeg
Mae ysgolion angen mwy o athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg – ym mhob pwnc.
Mae yna hefyd ddigon o gefnogaeth ar gyfer dysgu proffesiynol trwy gydol dy yrfa.
CAMAU NESAF
Cysyllta am fwy o wybodaeth ac i drafod dy opsiynau.
Digwyddiadau - Ymuna â ni mewn digwyddiad - mewn diwrnod agored prifysgol, gallwn dy helpu gyda dy gais ac i baratoi ar gyfer cyfweliad.
Dilyna Addysgu Cymru - ein hymgyrch ar gyfer athrawon uchelgeisiol yng Nghymru. With symbols for the channels
Gwna gais am brofiad gwaith mewn ysgol leol i gael blas ar sut beth yw sefyll o flaen dosbarth.
PWY YDYN NI?
Gall Addysgwyr Cymru dy helpu, dim ots ar ba ran o dy siwrnai wyt ti - o ymgeiswyr dan hyfforddiant i athrawon cymwysedig sy'n chwilio am swyddi gwag. Gallwn dy helpu i ddarganfod dy swydd ddelfrydol ar ein tudalen swyddi.
Cysyllta gyda un o'r tîm heddiw!
Ffonia 02920 460099
Ebostia: gwybodaeth@addysgwyr.cymru
Am sgwrs gyda’r tîm
Mae gan Addysgwyr Cymru bopeth rwyt ti ei angen i archwilio llwybrau a chyfleoedd gyrfa o fewn addysg. Cymer olwg.