Ein Stori
Ein nod yw ymgysylltu a holl bobl ifanc, dysgwyr a chyflogwr, wrth gefnogi unigolion i ffynnu trwy hyfforddiant a datblygiad. Rydym wedi ennill enw da ledled Cymru am ddarparu rhaglenni hyfforddi a datblygu o ansawdd uchel sydd, yn eu tro, yn cefnogi'r sector twristiaeth syn tyfu.
BETH RYDYM YN CHWILIO AMDANO:
Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Hyfforddi medrus i ymuno a tîm darparu dysgu Rheoli Manwerthu syn tyfu.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol profiad rheoli llinell mewn amgylchedd manwerthu a’r gallu i addysgu a datblygu prentisiaid a gyflogir yn y sector. Mae hunan
gymhelliant, brwdfrydedd, gweithio annibynnol a gwaith tîm yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, ochr yn ochr â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da.
Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyflogwyr a phrentisiaid o bob oed, felly mae;n rhaid ir gallu i ysgogi unigolion au cefnogi i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt fod yn un och priodoleddau, gan feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu gwych yn ogystal â gyrru i lwyddo.
Yn y pen draw, byddwch yn cael llawer iawn o foddhad swydd drwy ddysgu'ch prentisiaid i gyflawni eu Cymwysterau NVQ Manwerthu Lefelau 2 i 4.
Gallwch ddisgwyl cyflwyno addysgu a dysgu yn y gweithle o ddydd i ddydd, gan drosglwyddo eich gwybodaeth ach profiad yn ogystal â chynnal asesiadau,
cynorthwyo prentisiaid wrth iddynt baratoi eu portffolio o dystiolaeth, a chynnal cofnodion cynnydd.
Yn yr un modd, bydd disgwyl i chi gefnogi dysgwyr i wella eu llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, a hyrwyddo'r defnydd or Gymraeg lle bynnag y bo modd.
Mae'n ofyniad i feddu ar drwydded yrru ddilys gyfredol, a mynediad i'ch cludiant eich hun gan fod teithio yn hanfodol ir swydd.
DYLECH:
● Bod ag o leiaf 3 blynedd o brofiad o weithio yn y sector Rheoli Manwerthu ar
lefel rheolwr uwch / canol.
● Bod â chymwysterau Rheoli Manwerthu ar Lefel 4 neu fod yn gyfarwydd â
nhw.
● Bod â phrofiad o arwain tîm, neu oruchwylio eraill.
● Meddu ar sgiliau rheoli amser a threfnu gwych.
● Bod â lefel dda o sgiliau TG ar gallu i ddysgu meddalwedd newydd.
● Meddu ar TGAU A* - C / 9 - 4 mewn Saesneg a Mathemateg neu lefel 2 gyfatebol.
BYDDAI’N WYCH PE BAECH CHI:
● Yn gallu siarad Cymraeg, neu fod yn barod i’w ddysgu.
● Yn meddu ar wobr aseswr D32/D33, TAQA neu A1.
● Yn gyfarwydd â chymwysterau Rheoli Manwerthu ar Lefel 4.
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL:
● Darparu addysgu a dysgu allweddol i lwyth achos o ddysgwyr yn y gweithle.
● Datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwr.
● Cynllunio a chynnal asesiadau i ddiwallu anghenion cymwysterau, gan
gynnwys wyneb yn wyneb ac ar-lein.
● Cynnal cofnodion dysgwyr o asesiadau a chynnydd.
● Ymgysylltu â chyflogwyr a dysgwyr posibl i nodi cyfleoedd newydd.
● Gweithio gydag adrannau eraill o fewn Hyfforddiant Cambrian i sicrhau bod
dysgwyr yn gallu cwblhau eu rhaglenni prentisiaeth ar amser.
MANTEISION ALLWEDDOL:
● Ystod gyflog £25,000.00 (digymwys) - £27,000.00 (cymwys) y flwyddyn.
● Hawliau gwyliau’r Banc a gwyliau blynyddol hael.
● Cynllun Tâl Salwch Cwmni ar ddiwedd y cyfnod prawf.
● Cefnogaeth iechyd meddwl a lles.
● Cyfleoedd DPP parhaus.
● Cynllun pensiwn cwmni.
● Darperir gwisg staff, gliniadur a ffôn symudol.
● Defnydd o Geir y Cwmni.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, yn y lle cyntaf, anfonwch eich CV ach llythyr eglurhaol yn amlinellu pam rydych eisiau'r swydd a pham rydych yn teimlo eich bod yn ymgeisydd addas i:
Ceri Morgan-Jones ir e-bost canlynol:
ceri@cambriantraining.com Ffôn: 01938 555 893
Bydd angen i chi gofrestru fel Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Bydd angen datgeliad DBS ehangach ar draul y cyflogwr.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gyflogwr cyfle cyfartal a hyderus o ran anabledd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Llun 13eg o Hydref 2025.
Mae;r cwmni'n cadw'r hawl i gau'r swydd ar unrhyw adeg os ydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau addas. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau eich ystyriaeth ar gyfer y swydd.