- Posted by: Educators Wales
Beth yw Datblygiad Proffesiynol a pham ei fod yn bwysig?
Beth yw Datblygiad Proffesiynol?
Mae’r term datblygiad proffesiynol yn cyfeirio at y broses o ennill a datblygu sgiliau newydd i’ch helpu i symud ymlaen ymhellach yn eich gyrfa ddewisol. Gall hyn fod trwy gofrestru ar gyfer dosbarthiadau neu weithdai datblygiad proffesiynol, mynychu cynadleddau, ac ennill tystysgrif i ddangos bod eich gwybodaeth a'ch sgiliau wedi datblygu.
Hanfod datblygiad proffesiynol a dysgu proffesiynol yw chi a'ch ymrwymiad i ymdrechu i wella'ch hun a'ch set sgiliau. Mae datblygiad proffesiynol yn eich annog i fynd ati i chwilio am gyfleoedd i ddysgu rhywbeth newydd, adnewyddu neu ddatblygu sgiliau newydd a chadw i fyny â'r datblygiadau diweddaraf yn eich maes. Mae datblygiad proffesiynol yn dangos eich ymroddiad i fynd y tu hwnt i unrhyw hyfforddiant cychwynnol y gallech ei dderbyn i wella'ch hun.
Bydd datblygiad proffesiynol a chyfleoedd dysgu yn amrywio o berson i berson yn dibynnu ar eich swydd, y sector yr ydych yn gweithio ynddo a lefel eich profiad. Gall datblygiad proffesiynol fod yn ffurfiol fel:
- Cyrsiau
- Rhaglenni e-ddysgu
- Cynadleddau
- Gweithdai
Fodd bynnag, gall dysgu proffesiynol ddigwydd o ddydd i ddydd hefyd mewn lleoliadau mwy anffurfiol gan gynnwys:
- Trafodaethau ymhlith cyfoedion
- Darllen ac ymchwil annibynnol
- Arsylwi gwaith cydweithiwr
- Dysgu oddi wrth gydweithiwr
- Adolygiadau perfformiad
Mae’n bwysig deall nad yw datblygiad proffesiynol yn gymhwyster nac yn ymarfer ticio blychau, ond yn hytrach yn broses barhaus i wella’ch sgiliau a’ch profiadau er mwyn perfformio’n well yn eich swydd a chreu cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol. Gall unrhyw un edrych i mewn i'w datblygiad proffesiynol, o'r rhai sy'n newydd i'w llwybrau gyrfa dewisol, i'r rhai sy'n edrych i symud ymlaen mor bell ag y gallant o’u maes dewisol.
Pam mae Datblygiad Proffesiynol yn Bwysig i Addysgwyr?
Yn Addysgwyr Cymru credwn fod dysgu yn daith gydol oes nad yw byth yn dod i ben, ac rydym yn annog chwilfrydedd proffesiynol i bawb sy’n gweithio yn y sector addysg. Mae'n hanfodol bod y rhai sy'n gweithio yn y sector addysg bob amser yn ymwybodol o'u cyfleoedd a'u hopsiynau dysgu a datblygu proffesiynol. Mae datblygiad proffesiynol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i addysgwyr, canllawiau’llywodraeth wedi'u diweddaru, sgyrsiau amserol, a dulliau addysgu newydd. Mae datblygiad proffesiynol yn arwyddocaol i addysgwyr oherwydd mae hefyd yn cael effaith enfawr ar ddysgu a datblygiad eich myfyriwr.
Mae manteision datblygiad proffesiynol i weithwyr addysg proffesiynol yn cynnwys:
- Mae addysgwyr yn dod yn fwy effeithiol trwy gyfleoedd datblygiad proffesiynol. Trwy ddod i gysylltiad â dulliau addysgu newydd maent yn dod yn fwy medrus wrth gyflwyno eu cynnwys i ddysgwyr
- Mae addysgwyr yn ennill mewnwelediadau a gwybodaeth trwy ddysgu gwersi gan gyd-addysgwyr. Pan fydd addysgwyr yn rhyngweithio ac yn rhannu eu profiadau gallant ddysgu oddi wrth eraill a gwella eu galluoedd addysgu eu hunain
- Gall addysgwyr wella eu sgiliau trefnu a chynllunio eu hunain trwy ddatblygiad a dysgu proffesiynol
- Mae addysgwyr yn derbyn diweddariadau a newidiadau pwysig i ganllawiau a chwricwlwm fel yr angen am gynhwysiant myfyrwyr LHDTC+, gwybodaeth am ddiwygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru a’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.
- Mae addysgwyr yn parhau â'u taith addysgol eu hunain. Trwy ddatblygiad proffesiynol, gall staff addysgu barhau i ddysgu a datblygu sgiliau newydd a fydd o fudd i'r sefydliad y maent yn gweithio ynddo, y dysgwyr y maent yn eu haddysgu a nhw eu hunain.
Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol yn Addysgwyr Cymru
Yn Addysgwyr Cymru rydym yn frwdfrydig am ddysgu, nid yn unig i ddysgwyr ond hefyd i weithwyr addysg proffesiynol. Mae ystod eang o gyrsiau ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd a fydd yn eich helpu chi i ennill y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu a symud ymlaen yn eich gyrfa.
Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael ar ein tudalen cymwysterau a’n tudalen dysgu proffesiynol. Gallwch bori drwy'r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael yn seiliedig ar eich sector:
- Ysgol
- Addysg Bellach
- Dysgu Seiliedig ar Waith
- Gwaith Ieuenctid
- Addysg Oedolion
Yna byddwch yn gallu gweld yr holl gyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd ac opsiynau ar gyfer cymwysterau a dysgu proffesiynol yng Nghymru.
Cliciwch yma i weld ein adnoddau dysgu proffesiynol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'n tîm cyfeillgar. gwybodaeth@addysgwyr.cymru