BETH YW ATHRO CYFLENWI?

Fel Athrawon Cyflenwi, rydym yn galluogi ysgolion yng Nghymru i barhau i ddarparu addysg o safon fyd-eang bob dydd, gan gyflenwi absenoldebau staff am gyfnod dyddiol neu'n hirdymor i sicrhau nad yw'r absenoldebau yn cael effaith negyddol ar ddatblygiad a chanlyniadau dysgwyr.

Rydym yn gymysgedd amrywiol o addysgwyr proffesiynol cymwys; athrawon newydd gymhwyso a phobl sydd wedi newid gyrfa, athrawon medrus a gweithwyr proffesiynol wedi lled-ymddeol. Beth bynnag ein cefndir neu ein profiad, rydym bob amser yn barod i gamu i mewn ac achub y dydd, y mis neu hyd yn oed y flwyddyn gyfan.

Mae natur anrhagweladwy ein swydd yn golygu ein bod bob amser yn darparu llond trol o frwdfrydedd, egni ac adnoddau. Mewn cyfnod o wythnos, gallem arwain pum dosbarth gwahanol neu gael ein gosod mewn pum coleg neu sefydliad gwahanol.

Mewn un diwrnod, gallem fod yn dysgu pwnc yr ydym yn gyfarwydd ag ef neu'n ymdrin ag ystod eang o bynciau sy'n hollol newydd i ni.

Mae hyn yn golygu ein bod bob amser yn gallu addasu, yn agored i newid ac yn meithrin perthynas â dysgwyr yn gyflym i gyflwyno gwersi o ansawdd uchel sy'n addysgu, yn ennyn brwdfrydedd ac yn ysbrydoli.

Y CYMWYSTERAU BYDD ANGEN ARNOCH

TAR mewn Addysg Bellach neu Addysg Ôl-orfodol yn y maes rydych chi am ddysgu; neu Cymhwyster Lefel 3 o leiaf yn y maes rydych am ei ddysgu a chymhwyster addysgu sy'n berthnasol i lefel y cyfrifoldeb sydd gennych yn eich swydd.

Chwilio darparwyr cymwysterau yma

Y SGILIAU BYDD ANGEN ARNOCH
  • Sgiliau addysgu rhagorol
  • Sgiliau cyfathrebu cryf
  • Y gallu i feithrin perthynas yn gyflym
  • Hyblygrwydd
  • Creadigrwydd, arloesedd a dyfeisgarwch
  • Empathi a dealltwriaeth
  • Sgiliau rheoli ystafell ddosbarth cryf
  • Ymrwymiad i ddysgu proffesiynol
DISGWYLIADAU CYFLOG
Gall Athrawon Cyflenwi ennill (y flwyddyn):
Lleoliadau dyddiol:
£24906
Lleoliadau hirdymor
£24906