BETH YW SWYDDOG IECHYD A DIOGELWCH?

Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n profiad arbenigol i sicrhau diogelwch a lles yr holl ddysgwyr a staff, a chynnal safonau uchel o ran diogelu.

Rydym yn defnyddio ein sgiliau a’n gwybodaeth i leihau damweiniau ac anafiadau ac atal problemau iechyd yn y gweithle. Gallai ein gweithredoedd o bosibl achub bywydau ein cydweithwyr, neu eu hatal rhag dioddef anafiadau difrifol.

Mae ein cyfrifoldebau yn cynnwys ein gweithle ni, yn ogystal â gwerthuso rheolaeth iechyd a diogelwch mewn lleoliadau profiad gwaith, er mwyn sicrhau diogelwch dysgwyr (a’r gweithlu) yn yr amgylchedd gwaith.

Rydym yn sicrhau bod iechyd a diogelwch yn eich galluogi i gyflawni eich amcanion, heb eich rhwystro neu’ch llesteirio.

 

LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL

Gall y rhain gynnwys:

  • Ennill cymhwyster Iechyd a Diogelwch yn ddiweddar
  • Rôl iechyd a diogelwch mewn diwydiant
  • Technegydd (dolen i silwét technegydd)

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

Dylai swyddogion iechyd a diogelwch feddu ar dystysgrif y Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (IOSHH) neu’r Bwrdd Arholi Cenedlaethol mewn Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (NEBOSH) neu gymhwyster Lefel 3 cyfatebol mewn Iechyd a Diogelwch.

 

Chwiliwch yma am ddarparwyr cymwysterau

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL

  • sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
  • sgiliau cyfathrebu cryf
  • sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i gydweithio â phobl ar lefelau gwahanol
  • y gallu i ddadansoddi problemau ac adnabod datrysiadau ymarferol
  • gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, gan gynnwys Codau Ymarfer Iechyd a Diogelwch Llywodraeth Cymru

 

 

  • hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh
  • sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
  • ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
  • ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Chwiliwch yma am swyddi

CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD

Gall y rhain gynnwys: