MANYLION
  • Posted by: Educators Wales

Holi ac ateb Rhys Jones - gwasanaeth eiriolaeth a chymorth Addysgwyr Cymru

Holi ac ateb Rhys Jones - gwasanaeth eiriolaeth a chymorth Addysgwyr Cymru

Mae Addysgwyr Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n dod â chyfleoedd gyrfa, hyfforddiant, a swyddi yn sector addysg Cymru ynghyd mewn un lleoliad hawdd cael ato. Mae’r porth swyddi, sef un o’r mwyaf ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, yn cynnwys mwy o swyddi gwag nag unrhyw ddarparwr arall yn rheolaidd. Dyma’r lle i fynd i chwilio am swydd.

Fe gawson ni sgwrs gyda Rhys Jones, gwas sifil a oedd eisiau newid ei yrfa. Trwy Addysgwyr Cymru, daeth Rhys o hyd i wybodaeth a chymorth i’w helpu i gael lle ar raglen addysg gychwynnol athrawon (AGA).

Sut clywsoch chi am Addysgwyr Cymru?

Roeddwn i’n ymchwilio i newid gyrfa i addysgu, ac fe ddes i o hyd i NowTeach trwy’r dudalen ‘Ymuno â maes addysgu’ ar gov.uk. Fe ges i fy nghyfeirio at Addysgwyr Cymru pan sylweddolon nhw fy mod i’n byw yng Nghymru, ac yn bwriadu ymuno â maes addysgu yng Nghymru.

Sut roedd Addysgwyr Cymru wedi’ch cynorthwyo?

Fe wahoddodd Addysgwyr Cymru fi i fynychu gweminar, ynghyd â dau ddarpar athro arall. Fe esbonion nhw’r broses ymgeisio, y cymorth a oedd ar gael i ni a’r math o bethau y byddai staff derbyn yn chwilio amdanyn nhw yn y cais, y datganiad personol, ac mewn cyfweliad.

Roedd staff Addysgwyr Cymru yno i ateb fy nghwestiynau ynglŷn â beth i’w gynnwys yn y datganiad personol, pan oeddwn i’n cwblhau’r cais UCAS.

Yna, fe ges i sesiwn un i un ar-lein gydag aelod o dîm Addysgwyr Cymru i’m helpu i baratoi ar gyfer y cam cyfweliad. Fe roddodd gyngor ac awgrymiadau defnyddiol i mi, gan gynnwys beth i’w ddisgwyl o’r cyfweliad, a’r broses.

Beth oedd wedi’ch ysbrydoli i ddymuno hyfforddi fel athro?

Roedd fy swydd yn golygu llawer o hyfforddi gweision sifil eraill, a hefyd eu coetsio i wella ansawdd eu gwaith dros sawl mis, neu hyd yn oed flynyddoedd. Fe sylweddoles i’n raddol fy mod i’n mwynhau’r agwedd addysgu ar fy swydd gryn dipyn, ac roedd hynny wedi fy ysgogi i archwilio ymuno â maes addysgu.

Pa wasanaethau Addysgwyr Cymru a ddefnyddioch chi?

Fe es i i weithdy Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), ymgysylltu â staff Addysgwyr Cymru drwy e-bost ar gyfer cymorth parhaus gyda’r cais, ac fe ges i alwad ar-lein un i un i baratoi ar gyfer y cyfweliad. Fe wnaethon nhw hefyd fy rhoi mewn cysylltiad â rhai o’r darlithwyr yn y prifysgolion roeddwn i’n ystyried cyflwyno cais iddynt, rhag ofn bod unrhyw gwestiynau penodol roeddwn i eisiau eu gofyn am y rhaglen roeddwn i’n ymgeisio amdani.

Sut roedd y cymorth a gawsoch wedi’ch helpu?

Roedd pob cam o’r cymorth a gynigiwyd gan Addysgwyr Cymru wedi lleddfu pryderon ynglŷn â’r broses ymgeisio. Roedd amser hir wedi mynd heibio ers i mi ymgeisio am le mewn prifysgol ddiwethaf. Doedd dim cymorth gan yr ysgol y tro hwn. Fe allai fod wedi gwneud i mi deimlo’n ynysig iawn ac wedi dieithrio, ond diolch i Addysgwyr Cymru, doedd e’ ddim cynddrwg!

A fyddech chi’n argymell gwasanaethau Addysgwyr Cymru i bobl eraill?

Yn sicr! Ni all y wybodaeth sydd ar gael ar-lein gymharu â siarad â staff hyfforddedig, cymwynasgar sydd eisiau i chi lwyddo yn eich cais.

------

Ym mis Medi 2023, bydd Rhys yn dechrau rhaglen AGA yng Nghymru, i ddod yn athro mathemateg. Os hoffech chi gael cyngor, arweiniad neu gymorth gyda cheisiadau neu gyfweliadau, cysylltwch â’r tîm.