Cyngor y Gweithlu Addysg

Education Workforce Council
Independent Regulator
EIN CYFEIRIADAU:
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Caerdydd
  • Caerdydd
  • CF24 0AB
Amdanom Ni

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw'r corff rheoleiddio annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Rydym yn cwmpasu athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith.

Yr hyn wnawn

Ein swyddogaeth graidd yw rheoleiddio ym mudd y cyhoedd. I wneud hyn, yn gyntaf rydym yn cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg sy'n gymwys i ymarfer mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid a dysgu yn y gweithle. Mae hynny’n fwy na 88,000 o ymarferwyr, ar draws 11 o gategorïau cofrestru. Os oes angen i chi gofrestru gyda ni, gallwch wneud cais ar-lein.

Yn ail rydym yn cyhoeddi Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sy'n gosod y safon a ddisgwylir gan gofrestreion.

Yn drydydd, trwy ein gwaith priodoldeb i ymarfer, rydym yn ymchwilio i, a chlywed honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwyster proffesiynol difrifol neu droseddau perthnasol.

Mae gennym gyfrifoldeb statudol i achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon, a monitro eu bod yn cydymffurfio gyda meini prawf cenedlaethol.

Pasbort Dysgu Professiynol

Mae gan bob un o’n cofrestreion fynediad i’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), sef e-bortffolio a ddyluniwyd i’w cynorthwyo wrth wella eu hymarfer trwy gofnodi, myfyrio ar, a rhannu eu dysgu.

Gellir dod o hyd i safonau proffesiynol pob grŵp cofrestru CGA o fewn y PDP. Mae’r offerynnau rhyngweithiol sydd o fewn y PDP yn galluogi cofrestreion i fapio tystiolaeth a hunanasesu eu cynnydd yng nghyd-destun eu safonau proffesiynol.

Os ydych am roi cychwyn ar eich PDP, darllenwch ein canllaw byr  i’ch helpu i greu eich cyfrif ar-lein.

Priodoldeb i Ymarfer

Mae ein staff ac aelodau panel priodoldeb i ymarfer yn gyfrifol am waith rheoleiddio CGA. Mae hyn yn cynnwys disgyblu, addasrwydd am gofrestru ac apeliadau sefydlu.

Pasbort Dysgu Proffesiynol

Mae gan bob un o’n cofrestreion fynediad i’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), sef e-bortffolio a dyluniwyd i’w cynorthwyo wrth wella eu hymarfer trwy gofnodi, myfyrio ar a rhannu eu dysgu.

Gellir dod o hyd i safonau proffesiynol pob grŵp cofrestru CGA o fewn y PDP. Mae’r offerynnau rhyngweithiol sydd o fewn y PDP yn galluogi cofrestreion i fapio tystiolaeth a hunanasesu eu cynnydd yng nghyd-destun eu safonau proffesiynol.

Os ydych am roi cychwyn ar eich PDP, darllenwch ein canllaw byr I’ch helpu i sefydlu eich cyfrif ar-lein.

Digwyddiadau dysgu proffesiynol

Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau dysgu proffesiynol ar gyfer ein cofrestreion trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys ein darlith flynyddol boblogaidd, sef Siarad yn Broffesiynol. Yn y gorffennol mae’n digwyddiadau wedi cynnwys siaradwyr megis yr Athro Andy Hargreaves, Yr Athro Pak Tee Ng, Dr Carol Campbell a’r Athro Yong Zhao.

Y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Mae’r Marc Ansawdd yn adnodd unigryw ar gyfer hunanasesu, cynllunio gwelliant ac ennill cydnabyddiaeth am waith ieuenctid. Mae’n cefnogi ac yn cydnabod safonau sy’n gwella mewn darpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwaith ieuenctid, gan ddangos a dathlu rhagoriaeth eu gwaith gyda phobl ifanc.

Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y Marc Ansawdd, ewch i'r tudalennau Marc Ansawdd

Dod i adnabod ni a’n gwaith

Rydym yn cyflwyno hyfforddiant a gweithdai ledled Cymru i’n holl grwpiau cofrestredig yn ogystal â rhanddeiliaid megis llywodraethwyr, sefydliadau hyfforddi, a chonsortia addysg rhanbarthol. Rydym yn gwneud hyn yn bersonol, neu ar-lein.

Mae ein harbenigedd yn cwmpasu amrywiaeth o themâu sy’n gysylltiedig â’n gwaith, megis:

  • Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA
  • defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol
  • cyfrifoldebau a moeseg proffesiynol
  • y Pasbort Dysgu Proffesiynol

Gallwn hefyd gymryd rhan mewn cynadleddau, sesiynau panel, neu ddod â stondin i’ch digwyddiad.

I drefnu cyflwyniad i’ch sefydliad chi, cwblhewch ein ffurflen ar-lein

Darganfod mwy amdanom ni yn www.cga.cymru