Coleg Caerdydd a'r Fro

Cardiff and Vale College
Further Education College
EIN CYFEIRIADAU:
  • Coleg Caerdydd a'r Fro
  • Cardiff
  • Caerdydd
  • CF10 5FE

  • Coleg Caerdydd a'r Fro
  • Barry
  • Vale of Glamorgan
  • CF62 8YJ
Amdanom Ni

Coleg Caerdydd a'r Fro (CAVC) yw un o'r colegau mwyaf yn y wlad, yn cyflwyno addysg a hyfforddiant o safon uchel i dros 30,000 o ddysgwyr y flwyddyn ar draws cyrsiau coleg, cymwysterau prifysgol a rhaglenni prentisiaeth llawn amser a rhan amser, ynghyd â darpariaeth hyfforddiant penodol ar gyfer cyflogwyr.

Gyda gweithlu dynamig o arbenigwyr pwnc a diwydiant, mae CAVC yn hyfforddi pobl  mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf ar draws Caerdydd a’r Fro, ar-lein, yn y gymuned ac yn y gweithle, ledled y rhanbarth, y DU a thu hwnt.

Mae CAVC yn sefydliad sy’n blaenoriaethu iechyd a llesiant ei staff a’i ddysgwyr. Cafodd ei ymrwymiad at degwch, parch, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac ymgysylltiad ei gydnabod yn 2021, wrth ennill gwobr Darparwr Addysg Bellach y Flwyddyn yng ngwobrau'r Ganolfan Genedlaethol er Amrywiaeth, mae hefyd wedi cyrraedd yr ail safle yn Mynegai’r 100 Gweithle Mwyaf Cynhwysol 2021. Cafodd CAVC hefyd ei enwi fel y gorau yn y DU yng Ngwobrau TES FE ar gyfer y cymorth mae’n ei gynnig i’w ddysgwyr.

Drwy bartneriaethau unigryw ac ystyrlon gyda chyflogwyr, mae CAVC yn cynnig cwricwlwm ymatebol a dynamig, o safon uchel, sy’n gweithio ar gyfer y dysgwyr a’r cyflogwyr ledled y rhanbarth, yn mynd i’r afael â bylchau mewn sgiliau, gwella cyfleoedd cyflogaeth a sicrhau llif o dalent ar gyfer y rhanbarth.

Mae CAVC hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o brifysgolion yng Nghymru a Lloegr i ddarparu cymwysterau Addysg Uwch, gan gynnwys Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Kingston Llundain, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Gorllewin Llundain, i sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle gorau i ennill cymwysterau lefel prifysgol ar eu stepen ddrws.

Ydych chi eisiau dechrau neu roi hwb i’ch gyrfa yn y sector addysg? Gallai un o’n cyrsiau fod y llwybr cywir i chi.

Mae ein cyrsiau sy’n ymwneud ag Addysg yn cynnwys:

Gradd Sylfaen mewn Addysgu, Dysgu a Datblygu

https://cavc.ac.uk/cy/courses/he/foundation-degree-in-learning

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCE) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

https://cavc.ac.uk/cy/courses/he/pgce

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol (PgCE) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

https://cavc.ac.uk/cy/courses/he/professional-graduate-certificate-pgce…

BA (Anrh) mewn Addysgu, Dysgu a Datblygu, cwrs ychwanegol

https://cavc.ac.uk/cy/courses/he/education-learning-development

Arwain a Rheoli

https://cavcforbusiness.co.uk/cy/subject/leadership-and-management

Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

https://cavc.ac.uk/cy/courses/teaching/supporting-teaching-learning-in-…

https://cavc.ac.uk/cy/courses/teaching/supporting-teaching