MANYLION
  • Posted by: Educators Wales

Uwch Weithiwr Ieuenctid ar gyfer yr Islawr, wedi'i ariannu gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerffili

Ers pryd wyt ti wedi bod yn weithiwr ieuenctid?
Rydw i wedi gweithio yng Nghyngor Caerffili yn y Gwasanaeth Ieuenctid ers 20 mlynedd. Dechreuais weithio yno yn 19 oed, felly roeddwn i bron yn ffres allan o'r coleg. Cyn hynny gwnes i rai swyddi gofal plant, gan weithio mewn meithrinfa breifat, ond Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili oedd fy swydd gyntaf mewn Gwaith Ieuenctid ac hyd yma mae fy ngyrfa gwaith ieuenctid cyfan wedi bod o fewn yr un sefydliad.
Gweithiais mewn Clybiau Ieuenctid i ddechrau. Roedd gennym hefyd ddarpariaeth symudol a deithiodd o amgylch y Fwrdeistref yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth, ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael profiad yn gweithio ar y prosiect hwnnw am ychydig. Yna, roeddwn i'n Weithiwr Ieuenctid mewn ysgol gyfun leol ac yna aeth hynny ymlaen i'm rôl nawr fel yr Uwch Weithiwr Ieuenctid yn Yr Islawr. Rydym yn rhedeg canolfan galw heibio yn Llyfrgell y Coed Duon, lle gall pobl ifanc ddod i mewn a chael gafael ar wybodaeth a chefnogaeth ar gyfer beth bynnag sydd ei angen arnynt.
Rydw i wedi bod yn lwcus iawn - mae'n debyg fy mod i wedi gweithio ym mhob cymuned yng Nghaerffili trwy gydol fy ngyrfa.


Oeddet ti bob amser yn gwybod dy fod eisiau gweithio ym myd addysg?
Oeddwn, yn bendant. O oedran ifanc, gallaf gofio bod yn yr ysgol a siarad â'r cynghorydd gyrfaoedd a gwybod fy mod eisiau gweithio ym myd addysg. Roeddwn i eisiau gweithio gyda phobl ifanc a'u helpu rywsut. Nid oeddwn yn hollol siŵr sut y gallwn wneud hynny, ond yna wrth i mi ddod yn fwy ymwybodol o Waith Ieuenctid, sylweddolais ei fod yn ffit berffaith i mi.
Cefais fy nenu at Waith Ieuenctid oherwydd roeddwn i'n gwybod y byddai'n rhoi cyfle i mi fod o gwmpas pobl ifanc a'u helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn. Wnes i erioed gyrchu'r Gwasanaeth Ieuenctid pan oeddwn i'n iau, ond dwi'n cofio wrth i mi heneiddio roedd yna fws gwybodaeth a arferai fynd o amgylch y gymuned – o’r enw 'Coffi a Chondomau' os gofia i’n iawn - ac rwy'n cofio meddwl “dyma beth rydw i eisiau gwneud.” Roeddwn i eisiau bod allan yna, yn gweithio yng nghalon y gymuned a helpu pobl gyda phethau y gallai rhai pobl fod wedi teimlo'n anghyffyrddus yn siarad amdanyn nhw. Roeddwn i eisiau gweithio gyda phobl ifanc ar drothwy oedolaeth ac i allu darparu cefnogaeth iddyn nhw.


Sut mae Gwaith Ieuenctid wedi newid dros y blynyddoedd?
Pan ddechreuais gyntaf, roedd Gwaith Ieuenctid yn llawer mwy hamddenol ac anffurfiol. Y disgwyl nawr yw y dylai'r Gwasanaeth Ieuenctid fod yn cyflwyno cyrsiau achrededig i helpu pobl ifanc i ddatblygu - mae'n wych. Mae'n rhoi cyfle i bobl sy'n anoddach ymgysylltu â nhw ddatblygu eu sgiliau a'u haddysg mewn ffordd wahanol. Mae mwy o ddisgwyliad ar Weithwyr Ieuenctid nag oedd o'r blaen, ond o safbwynt person ifanc, mae hynny'n golygu bod mwy yn cael ei gynnig iddyn nhw a gall hynny ond bod yn beth da.
Rwy'n caru fy swydd nawr gymaint ag y gwnes i pan oeddwn i'n 19 oed. Er ei bod wedi newid, mae yna rai pethau sydd wedi aros yr un peth - ni fyddwch chi byth wedi diflasu, rydych chi bob amser yn cwrdd â phobl newydd, mae rhywbeth gwahanol bob amser. Gall fod yn heriol, ond mae'r gwobrau'n gorbwyso'r heriau.


Beth yw dy gyflawniad mwyaf yn dy rôl?
Rwy'n credu bod gweithio yn y Gwasanaeth Ieuenctid am 20 mlynedd yn gyflawniad mawr ynddo'i hun. Rydw i wedi gweithio gyda miloedd o bobl ifanc dros y blynyddoedd, felly mae wedi bod yn bleser pur gwylio pob un o'r unigolion anhygoel rydw i wedi gweithio gyda nhw yn tyfu i fod yn oedolion.


Wyt ti erioed wedi cael dy ysbrydoli gan berson ifanc wrth wneud dy swydd?
Yn bendant - lawer gwaith drosodd. Rydw i wedi cael fy ysbrydoli pan fydd person ifanc yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd, ac nid yw byth yn peidio â fy synnu pa mor barod am her ydyn nhw - hyd yn oed y bobl ifanc fwyaf di-hyder. Rwyf wrth fy modd yn gwylio eu hyder yn tyfu. Mae'n gwneud i mi fod eisiau gwthio fy ffiniau a rhoi cynnig ar bethau newydd hefyd.
Gweithiais gydag un person ifanc a oedd yn ddi-hyder iawn, gan eu bod yn cael eu bwlio'n ddifrifol fel plentyn. Roedd yn anodd iawn iddynt sgwrsio â mi i ddechrau, ond dros amser blodeuodd a phenderfynu eu bod am roi rhywbeth yn ôl o'r gefnogaeth a gawsant a phenderfynu mynd yn Weithiwr Ieuenctid. Mae eu stori bob amser yn glynu yn fy meddwl - i weld o ble y daeth y person ifanc hwn pan oeddent yn 14/15 i ble roeddent yn eu 20au. Roedd y cynnydd ar eu cyfer yn enfawr, ac mae'n debyg bod y ffaith eu bod wedi dilyn y llwybr Gwaith Ieuenctid yn rhywbeth rwy'n teimlo'n arbennig o falch ohono. Mae'n anhygoel, oherwydd bod ganddyn nhw gymaint i'w gynnig - cymerodd ychydig o amser iddyn nhw fagu eu hyder, ond fe gyrhaeddon nhw yno yn y diwedd.


Beth yw'r peth gorau mae rhywun wedi'i ddweud wrthyt yn y gwaith?
Dros y blynyddoedd rwyf wedi derbyn cymaint o sylwadau hyfryd, ond rwy'n credu bod un o'r rhai mwyaf cofiadwy gan riant. Fe wnes i weithio gyda dynes ifanc a gafodd ei bwlio’n ddifrifol ac roedd ei hyder ar ei lefel isaf erioed ac ysgrifennodd ei mam gerdyn ataf yn dweud “diolch am roi fy merch yn ôl i mi.” Mae'n fy ngwneud i'n eithaf emosiynol nawr wrth feddwl am hynny. Roedd yn beth hyfryd. Mae bob amser wedi aros gyda mi. Mae wir yn fy atgoffa o'r effaith y gallwn ei chael y tu hwnt i'r person ifanc ei hun.