MANYLION
  • Lleoliad: Ar-lein
  • Dechrau: 24 Tach, 2026 - 19:00
  • Diwedd: 24 Tach, 2026 - 19:45
Mwy o wybodaeth

Eich dyfodol ym myd addysg yn dechrau yma

Eich dyfodol ym myd addysg yn dechrau yma

Ydych chi erioed wedi ystyried gyrfa ym maes addysg ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? P'un a ydych chi'n fyfyriwr israddedig, yn raddedig, yn rhywun sy'n newid gyrfa neu'n dychwelyd i'r gwaith, bydd y gweminar rhad ac am ddim hwn gan Educators Wales yn eich helpu i archwilio'r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael ar draws y sector addysg yng Nghymru.

Ymunwch â'n tîm cyfeillgar wrth i ni eich arwain drwy'r gwahanol lwybrau gyrfa i ddod yn athro neu'n athrawes. Byddwn yn egluro'r cymwysterau a'r llwybrau hyfforddi sydd ar gael, yn rhannu cyngor ymarferol ar sut i ddechrau, ac yn tynnu sylw at y cymorth ariannol a mathau eraill o gymorth sydd ar gael i'ch helpu i gyflawni eich nodau gyrfa.

Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau a chael cipolwg ar sut beth yw gweithio ym maes addysg yn ymarferol.

Os oes gennych angerdd am wneud gwahaniaeth ac eisiau gyrfa sy'n ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol, dyma'r man perffaith i ddechrau.

Archebwch eich lle heddiw drwy anfon e-bost at gwybodaeth@addysgwyr.cymru a chymerwch y cam cyntaf tuag at yrfa werth chweil ym maes addysg.