- Lleoliad: Caerdydd
- Dechrau: 09 Medi, 2026 - 11:00
- Diwedd: 09 Medi, 2026 - 11:00
GradCon Cymru
Mae GradCon yn fwy na ffair yrfaoedd arferol: dyma ddigwyddiad graddedigion gorau Cymru! Ac ar ddydd Mawrth 8 a dydd Mercher 9 Medi, mae'n dychwelyd i DEPOT Caerdydd ar gyfer 2026.
Yn GradCon Cymru, cei di gwrdd ag amrywiaeth wych o gyflogwyr o bob cwr o Gymru sy'n awyddus i gwrdd â myfyrwyr, graddedigion a thalent ar ddechrau eu gyrfa. Bydd sgyrsiau, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio hefyd, ynghyd â chyfle i gael llun proffesiynol am ddim gan ffotograffydd. O, ac ydyn ni wedi sôn y bydd bwyd stryd hefyd? 👀
Bydd GradCon Cymru yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod, gyda phob diwrnod wedi'i gynllunio i helpu myfyrwyr a graddedigion i gysylltu â'r cyflogwyr sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw:
Dydd Mawrth 8 Medi: Diwrnod Cyffredinol
Mae ein Diwrnod Cyffredinol yn addas i fyfyrwyr a graddedigion o bob pwnc a disgyblaeth gradd. Mae hyn yn cynnwys y celfyddydau, y dyniaethau, busnes, y gyfraith, y gwyddorau cymdeithasol, addysg, ieithoedd, Saesneg, y cyfryngau, pynciau creadigol a mwy. Cei di gyfle i gwrdd â chyflogwyr o amrywiaeth eang o sectorau, darganfod swyddi i raddedigion, interniaethau a lleoliadau, a chymryd rhan mewn sgyrsiau, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio drwy gydol y dydd.
Dydd Mercher 9 Medi: Diwrnod STEM
Mae ein Diwrnod STEM wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr a graddedigion o bynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae hyn yn cynnwys meysydd fel bioleg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg, peirianneg meddalwedd, gwyddor data, mathemateg, gwyddor amgylcheddol, peirianneg, electroneg, seiberddiogelwch a phynciau STEM cysylltiedig eraill.
Bydd gan y cyflogwyr sy'n mynychu'r diwrnod hwn ddiddordeb arbennig mewn cwrdd â myfyrwyr a graddedigion o gefndiroedd STEM, felly os mai dyna ti, gwna'n siŵr dy fod yn dod draw i'n Diwrnod STEM.