MANYLION
  • Lleoliad: Ar-lein
  • Dechrau: 12 Mai, 2026 - 18:00
  • Diwedd: 12 Mai, 2026 - 19:00
Mwy o wybodaeth

Noson Agored ar-lein TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru Title

Noson Agored ar-lein TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru Title

Astudiwch y TAR rhan-amser neu gyflogedig yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Ymunwch â ni ar 12 Mai am noson agored ryngweithiol ar-lein wrth i ni esbonio sut y gall rhaglen arloesol TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru eich helpu i gyflawni eich breuddwyd o fod yn athro.

Yn y digwyddiad ar-lein, bydd tîm TAR arbenigol y Brifysgol Agored yn esbonio mwy am ein llwybrau TAR cyflogedig a rhan-amser unigryw sydd wedi'u cynllunio i ganiatáu ichi astudio o amgylch eich bywyd ac ennill wrth ddysgu. Mae'r ddau lwybr yn eich galluogi i gydbwyso astudio â'ch ymrwymiadau presennol fel rhianta, gofalu a gweithio.

Disgwyliwch sesiwn ryngweithiol lle gallwch sgwrsio â'r tîm TAR cyfeillgar a chael atebion i'ch cwestiynau am gyllid, lleoliadau ysgol, gofynion mynediad a mwy. Byddwch hefyd yn clywed gan ein darpar athrawon presennol wrth iddynt siarad am eu profiadau.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen.