MANYLION
  • Lleoliad: Ar-lein
  • Dechrau: 14 Ebr, 2026 - 17:00
  • Diwedd: 14 Ebr, 2026 - 18:00
Mwy o wybodaeth

Prifysgol Bangor - Archwilio Gyrfa mewn Addysgu

Prifysgol Bangor - Archwilio Gyrfa mewn Addysgu

Wyt ti’n ystyried gyrfa mewn addysgu? Mae Addysgwyr Cymru yn cynnal sesiwn ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor ac yn gwahodd chi i sesiwn wybodaeth ar-lein i archwilio'r gwahanol lwybrau i'r proffesiwn a darganfod sut y gallwn dy gefnogi ar dy daith.

Yn ystod y weminar, byddi di’n archwilio'r amrywiaeth lawn o gyrsiau addysgu mae Bangor yn eu cynnig - o Addysg Gynradd ac Uwchradd i lwybrau arbenigol mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol. Fe weli di sut mae ei haddysgu sy'n seiliedig ar ymchwil a'n profiad yn y byd go iawn yn dod at ei gilydd i dy helpu i gamu i'r ystafell ddosbarth yn hyderus.

Byddwn hefyd yn egluro’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael, gan ei gwneud hi'n glir ac yn syml i ddeall pa gyllid y gelli di fod yn gymwys i'w gael.

Bydd hefyd cyfle i ti ofyn cwestiynau a chael darlun clir o'r hyn y gelli di ei ddisgwyl o strwythur dy gwrs, lleoliadau, a'r cyfleoedd gyrfa gwerth chweil y gall addysgu eu cynnig.

P'un a dy fod yn barod i wneud cais neu newydd ddechrau archwilio dy opsiynau, y sesiwn hon yw'r lle perffaith i ddechrau.

Dyma dy gyfle i ddarganfod ble gall dy ddyfodol dy arwain — a sut y gall Prifysgol Bangor dy helpu i roi dy ddyfodol ar waith.