MANYLION
  • Lleoliad: Abertawe
  • Dechrau: 15 Hyd, 2025 - 17:30
  • Diwedd: 15 Hyd, 2025 - 19:00
Mwy o wybodaeth

Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Mae Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr athrawon lleiafrifoedd ethnig fel bod gan ddysgwyr yng Nghymru weithlu addysg mwy amrywiol. 

Ymunwch â ni yn ein Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Addysgwyr Cymru a'r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST).. 

Gyda’r hwyr, bydd sgyrsiau gan y siaradwyr canlynol:

Aminur Rahman - Swyddog Recriwtio a Chymorth, Hyrwyddo Gyrfaoedd, Addysgwyr Cymru
Dr Russell Grigg, FFCT - Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol i Athrawon
Khudeza Siddika - Mentor Cymunedol Cydraddoldeb Hil AGA
Cyn-fyfyrwyr TAR Uwchradd
Myfyrwyr TAR Cynradd

Bydd lluniaeth ar gael i bawb sy'n mynychu.

Archwiliwch ein rhaglenni yma

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom ymholiadau-tar@abertawe.ac.uk