MANYLION
- Lleoliad: Abertawe
- Dechrau: 03 Jul, 2025 - 10:00 am
- Diwedd: 03 Jul, 2025 - 12:00 pm
Diwrnod Profiad Ysgol

Hoffem eich gwahodd i ddiwrnod profiad ysgol gyfrwng Cymraeg a gynhelir yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, Heol Ynysydarren, Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot, SA9 2DY ddydd Iau, 3 Gorffennaf rhwng 10am a 12pm.
Dyma amlinelliad o’r profiadau y cewch chi yn ystod eich ymweliad:
- Taith ysgol - cynradd ac uwchradd
- Arsylwi dosbarthiadau
- Panel disgyblion
- Cyfleoedd cyllid
- Profiadau cyn-fyfyrwyr
- Cefnogaeth os ydych yn ansicr am y llwybr cyfrwng Cymraeg neu’n ddi-hyder
- Sesiwn Holi ac Ateb
I archebu lle am ddim, cofrestrwch drwy sganio’r cod QR isod gan nodi pa sector (cynradd neu uwchradd) neu pa bwnc neu bynciau sy’n eich diddori:
Pethau i'w nodi:
- Dylid cyrraedd yr ysgol erbyn 9.45am er mwyn cofrestru yn y dderbynfa er mwyn gallu dechrau’r ymweliad yn brydlon am 10am.
- Gellir parcio ym maes parcio’r ysgol am ddim.
- Rydym yn cadw'r hawl i ganslo'r digwyddiad os nad oes digon o bobl yn cofrestru.