MANYLION
  • Posted by: Educators Wales

Llawenydd pur mewn darganfod: Datgloi potensial trwy'r awyr agored

Llawenydd pur mewn darganfod: Datgloi potensial trwy'r awyr agored

 

Elli di ddweud ychydig wrthym am dy gefndir a beth ysbrydolodd di fod yn athrawes?

Roeddwn i’n gwybod erioed fy mod i am weithio gyda phlant a thueddu’n naturiol at fod yn athrawes o dan ddylanwad fy mam, a weithiodd mewn ysgol gynradd am gyfanswm o 32 o flynyddoedd. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac, wrth gwblhau fy ngradd mewn Seicoleg, cefnogais blant ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) wrth gyflwyno eu Therapi Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA). O’r adeg honno, diben popeth wnes i drwy gydol fy ngyrfa gynnar oedd fy ngalluogi i fod yr Athrawes Gynradd orau y gallwn fod. Fe wnaeth hyn gynnwys gweithio fel cwnselydd ffôn ar gyfer ChildLine, gwirfoddoli mewn Canolfannau Cymorth Dysgu lleol a chymryd rhan mewn nifer o ddosbarthiadau nos. Ar ôl i fi sicrhau fy rôl gyntaf fel athrawes, arweiniodd fy mhrofiad gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol at hyfforddi’n Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY). Rwy’ wedi bod yn CydADY am 11 mlynedd ac yn fy marn i, dyma un o’r rolau mwyaf buddiol mewn ysgol. 

Rwy’ wedi bod yn angerddol am yr awyr agored erioed, rhywbeth sydd wedi’i drwytho ynof ers roeddwn i’n blentyn bach. O ganlyniad i hyn, roeddwn yn deall pwysigrwydd addysg awyr agored a defnyddio’r awyr agored fel ffordd o gael y gorau allan o’r plant. Credaf yn gryf, po fwyaf o amser y bydd plant yn treulio yn yr awyr agored, gwell y byddant yn dysgu nid yn unig am fyd natur, ond amdanynt eu hunain. Mae’n rhyfeddol gweld y plant yn gwthio ac yn herio eu hunain mewn ffyrdd na fyddent fyth yn ei wneud yn yr ystafell ddosbarth. Felly, rwy’n teimlo fel bod gennyf fy swydd fy nelfrydol yn fy ysgol bresennol, sef bod yn Athrawes Feithrin, CydADY ac Arweinydd Ysgol Goedwig. Rwy’ wedi gallu cyfuno pob un o’r elfennau addysgu sydd orau gennyf mewn un rôl. Mae’n freuddwyd sydd wedi dod yn wir i mi.

Beth wyt ti’n ei garu fwyaf am dy rôl mewn addysg?

Rwy’ wrth fy modd yn treulio amser gyda’r plant yn ein hysgol goedwig a gwylio’r pleser pur ar eu hwynebau wrth iddynt roi cynnig ar rywbeth newydd fel dringo ychydig yn bellach, swingio ychydig yn bellach neu ddefnyddio offeryn yn llwyddiannus am y tro cyntaf. Mae’r eiliadau gwerthfawr pan fydd eu hwynebau’n goleuo a byddant yn wen o glust i glust yn amhrisiadwy, a dyna sy’n ei gwneud hi i mi. Mae hyn yn arbennig o bwerus i blant a all gael trafferth â chwricwlwm safonol oherwydd anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (SEBD). Mae gallu cael at y math hwn o ddarpariaeth yn chwyldroadol ac yn agor eu llygaid i bethau y gallant nid yn unig ddysgu amdanynt, ond eu meistroli a datblygu angerdd tuag atynt.

Agwedd arall ar fy rôl sy’n hynod bwysig yn fy marn i yw meithrin perthnasoedd gyda’r disgyblion a’u teuluoedd o’r eiliad y byddant yn dechrau mynychu’r sesiynau i rieni a phlant bach. Heb os, mae’r berthynas gadarnhaol hon o fudd i’w profiad o’r ysgol, pan fyddant yn dechrau yn y pen draw. Mae’r plant a’r teuluoedd yn fy na chyfarwydd â’r lleoliad, y staff cymorth a mi, felly nid yw’r pryderon hynny am ddechrau’r ysgol am y tro cyntaf yn bodoli. Mae hyn yn arbennig o bwysig fel CydADY, oherwydd mae’n allweddol bod y rhieni’n teimlo y gallant droi ataf am gymorth pan fydd ei angen arnynt.

Beth yw dy gamp fwyaf fel athrawes, yn dy farn di?

I mi, mae addysgu yn yr ysgol lle treuliais i’r rhan fwyaf o fy mhlentyndod yn gwireddu’r freuddwyd. Teimlaf yn gryf y gallaf i roi’n ôl yr hyn y ces i oddi wrth Ysgol Gynradd Catwg fel plentyn. Roedd diwrnod cynnig swydd yr Athrawes Feithrin i mi’n ddiwrnod allweddol ac, ers y diwrnod hwnnw, mae wedi bod yn daith anhygoel i fy sefyllfa heddiw. Roeddwn yn breuddwydio am ddefnyddio tir Catwg i greu’r lloches dysgu awyr agored i blant a, dipyn wrth dipyn, mae’r breuddwydion hynny wedi dod yn wir. Adeg i’w thrysori.

Pa gyngor byddet ti’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa mewn addysg?

Fy nghyngor i fyddai cael cymaint o brofiad â phosibl o weithio mewn ysgolion. Gall ysgolion amrywio cymaint ac mae cael dealltwriaeth dda o sut mae’r system addysg yn gweithio bob amser yn syniad da cyn dechrau gyrfa fel athro. Gweithiais i fel Cynorthwyydd Addysgu am flwyddyn cyn gwneud cwrs TAR a dysgais i gymaint o hyn. Byddwn i’n argymell hynny i unrhyw un sy’n ystyried addysgu, yn sicr.

Pa rinweddau a sgiliau sy’n hanfodol i lwyddiant yn y sector addysg, yn dy farn di?

Mae’n rhaid bod gennych angerdd go iawn amdano. Mae’n fwy o ffordd o fyw na ‘swydd’. Mae fy ngŵr i’n athro hefyd ac mae’n rhaid i ni wneud ymdrech ymwybodol i ‘ddiffodd y switsh’ a pheidio â ‘siarad siop’, oherwydd mae’n hawdd iawn mynd i arfer siarad yn gyson am yr ysgol. Mae’n rhaid bod gennych synnwyr disgrifiad, mwynhau hwyl a bod yn barod i ddysgu’n barhaus eich hun. Mae addysgu’n newid yn gyson ac mae’n bwysig gallu addasu yn ôl y dosbarth sydd o’ch blaen chi, gan nad yw’r un dau ddosbarth yr un peth.  

Beth yw eich nodau yn y dyfodol fel addysgwr?

Yn gyntaf, mae gen’ i gynlluniau mawr ar gyfer y ddarpariaeth awyr agored yn fy ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys adfer yr hen bwll, a ddefnyddiwyd yn y gorffennol ar gyfer rhwydo mewn pwll, cael cut ieir er mwyn i’r plant gasglu wyau a chynorthwyo’r plant i greu eu rhandir eu hunain a sefydlu siop ffrwythau a llysiau i’r pentref, sy’n cael ei redeg o dir yr ysgol.

Hoffwn barhau i ddatblygu ‘Mrs T’s Woodland Wonders’ ac, efallai, rhedeg diwrnodau ‘Lads and Dads’ pan all tadau ddod i dreulio amser gyda’u meibion, yn defnyddio offer a chymryd rhan mewn coedwriaeth. Does dim llawer ar gael yn benodol i dadau a meibion.

O’m rhan i, does gen i ddim rhyw nodau mawr mewn gwirionedd, heblaw dal ati gyda fy ngwaith. Rwy’ wrth fy modd gyda fy swydd bresennol ac nid yw meddwl am symud i ffwrdd o hynny yn apelio i mi. Byddwn i’n gweld eisiau’r plant ormod!