MANYLION
  • Posted by: Educators Wales

Gwneud y Cymhleth yn Syml: Trawsnewid Addysg Mathemateg

Gwneud y Cymhleth yn Syml: Trawsnewid Addysg Mathemateg

Allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich cefndir a beth wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn athro?
Rwyf yn enedigol o Ddyffryn Conwy, ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Dyffryn Conwy, lle astudiais Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg yn y chweched dosbarth. Symudais ymlaen i astudio mathemateg ym Mhrifysgol Bangor, ac wrth gwblhau doethuriaeth yn yr un Brifysgol, cefais y cyfle i addysgu un o’r modylau mathemateg. Ar ôl ychydig o wythnosau o flaen y dosbarth, roeddwn yn gwybod mai addysgu mathemateg oedd yr yrfa yr oeddwn eisiau ei ddilyn. Dilynais gwrs ymarfer dysgu ym Mhrifysgol Bangor, gan gwblhau profiad dysgu yn ysgolion Tryfan a Dyffryn Ogwen, cyn derbyn swydd barhaol yn Ysgol y Creuddyn, ger Llandudno, i ddysgu mathemateg.


Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am eich rôl mewn addysg?
Rwyf wrth fy modd efo’r cyfnodau hynny yn y dosbarth ble mae’n bosib gweld y geiniog yn disgyn. I mi, mathemateg yw’r gelfyddyd o wneud y cymhleth yn syml, ac mae’n bleser gweld dysgwyr yn torri problem anodd i lawr i gamau llai y mae’n bosib eu datrys. Trwy ystyried sut mae’r cof yn gweithio, boed yn gof gweithiol neu’n gof tymor hir, mae’n bosib cynllunio strategaethau er mwyn i’r dysgwyr o’ch blaenau gofio’r ffeithiau a’r technegau angenrheidiol, a’u defnyddio mewn cyd-destun.


Beth yw eich cyflawniad mwyaf fel athro yn eich barn chi?
Ar gychwyn fy ngyrfa, roeddwn wedi gorffen y cynllun gwaith yn gynnar efo un dosbarth ar ddiwedd blwyddyn 9. Penderfynais gychwyn prosiect lle’r oedd y dosbarth yn cynhyrchu fideo i’w roi ar safle YouTube yn egluro agwedd o fathemateg. Bu’r mwynhad o gynhyrchu’r fideo’n ysbrydoliaeth i ffilmio mwy o gynnwys i’w roi ar y sianel, yn wreiddiol at ddibenion dysgwyr Ysgol y Creuddyn. Ond wrth gwrs mae YouTube yn fforwm cyhoeddus, ac o fewn ychydig fisoedd roedd sylwadau’n cyrraedd yn diolch am y cynnwys, yn enwedig am ei fod trwy gyfrwng y Gymraeg. Dros y ddegawd nesaf ychwanegwyd dros 400 o fideos i’r sianel, i egluro’r cwrs mathemateg TGAU yn ei gyfanrwydd. Erbyn heddiw mae’r sianel efo miloedd o danysgrifwyr, a bron i filiwn a hanner o wylwyr.


Beth yw'r agweddau mwyaf gwerth chweil o'ch swydd?
Mae’n fraint cael gweithio bob dydd mewn cymuned o bobl ifanc a chyd-weithwyr mor arbennig. Mae’r ysgol yn teimlo fel un teulu mawr, ble (wrth gwrs) yr aelodau pwysicaf yw’r dysgwyr yr ydym yn paratoi ar eu cyfer. Ond mae mwy na dysgwyr mewn ysgol – o’r gyrrwr bws sy’n cludo’r dysgwyr i’r ysgol yn y bore, i’r glanhawr sy’n tacluso’r ystafell ddosbarth ar ddiwedd y dydd – mae rhywun yn edrych ymlaen at y sgyrsiau sydd i’w cael efo’r bobl hyn, ac i’r cyfeillgarwch sy’n dilyn. Mae hon yn swydd ble mae’n anodd osgoi gwneud ffrindiau am oes.


Allwch chi rannu momentyn neu brofiad arbennig sy'n sefyll allan yn eich gyrfa addysgu?
Mae Mawrth 14eg yn ddiwrnod arbennig bob blwyddyn yn y calendr mathemategol, gan fod y rhif pi yn cychwyn efo 3.14. Dros y blynyddoedd rydym fel adran wedi gwneud pob math o weithgareddau difyr ar Ddiwrnod Pi, gan gynnwys rhedeg siop elusennol yn gwerthu eitemau am £3.14, dylunio nendyrau gan ddefnyddio digidau pi (“pi-scrapers”), a barddoni ar ffurf pi-ku. Mae’n gyfle hefyd i gofio cysylltiad Cymru â’r rhif, gan mai William Jones o Sir Fôn oedd y cyntaf i ddefnyddio’r symbol p i gynrychioli’r rhif yn y flwyddyn 1706.


Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried gyrfa mewn addysgu?
Cer amdani! Mae hon yn swydd ble mae pob diwrnod yn wahanol, a ni fyddwch byth yn edrych ar eich oriawr yn disgwyl am ddiwedd y dydd. Mae digon o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, a chyfleoedd i gael dyrchafiad, i gyd mewn llu o leoliadau ar hyd a lled y wlad. Dyma swydd ble mae ffrwyth eich llafur i’w weld bob diwrnod canlyniadau, ond yn fwy na hynny i’w deimlo gyda phob gwên neu “ddiolch” ar ddiwedd gwers.


Pa rinweddau a sgiliau ydych chi'n meddwl sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y sector addysg?
Un o’r sgiliau rwy’n credu sy’n bwysig i athro ei gael yw’r gallu i roi ei hun yn esgidiau’r dysgwr, a dychmygu sut beth yw dysgu rhywbeth o’r newydd am y tro cyntaf. Mae’n demtasiwn weithiau meddwl fod beth rydym yn ei ddysgu’n sylfaenol neu’n hawdd, ac felly brysio trwy’r gwaith heb wir ystyried pa mor anodd yw caffael ffaith neu dechneg newydd. Rhaid ystyried y camsyniadau posib, a bod yn barod i egluro rhywbeth eto – mewn ffordd wahanol neu ar adeg wahanol yn y dyfodol. Os ydych erioed wedi gyrru i rywle newydd gan ddefnyddio cyfarwyddiadau eich Sat Nav, a ffeindio eich hun yn diffodd y gerddoriaeth neu’r radio wrth gyrraedd pen eich taith, yna meddyliwch pam. Mae’n debyg y byddwch yn gwneud hyn er mwyn gallu canolbwyntio’n well –canolbwyntio ar un peth newydd yn unig. Ein dyletswydd fel athrawon yw cofio bod y dysgwyr o’n blaenau’n cael eu cyflwyno i lu o bethau newydd bob diwrnod – os hoffwch lu o gyrchfannau newydd – a’n gwaith yw helpu’r dysgwyr lywio’r ffordd tuag at ben eu taith.


Yn eich barn chi, beth yw'r rhinweddau allweddol a arweiniodd at ddyfarnu Athro'r Flwyddyn i chi?
Ym myd addysg, mae’n hawdd iawn yng nghanol yr holl brysurdeb canolbwyntio ar y tymor byr, gan gynllunio’n unig ar gyfer y wers nesaf, neu’r diwrnod nesaf. Tua degawd yn ôl, penderfynais fynd yn erbyn y graen a chychwyn cynllunio ar gyfer yr hir dymor, gan gynhyrchu set o adnoddau i’w defnyddio dros gyfnod o bum mlynedd, o flwyddyn 7 hyd at ddiwedd blwyddyn 11. Rwy’n credu mai’r gwaith caled a aeth i mewn i ddylunio’r adnoddau hyn sy’n cael ei gydnabod efo gwobr athro’r flwyddyn, a’r ffaith bod yr adnoddau bellach yn cael eu defnyddio’n aml dros Gymru. Rhaid cydnabod hefyd fod gwobr unigol fel hyn ddim ond yn bosib ei dderbyn gyda chefnogaeth eraill, yn yr adran fathemateg ac yn gyffredinol o fewn yr ysgol. Gwaith tîm yw cyfrinach ysgol lwyddiannus, gyda phawb yn rhwyfo i’r un cyfeiriad, gan arddangos angerdd, cysondeb ac empathi.


Beth yw eich nodau ar gyfer y dyfodol fel addysgwr?
Rwy’n credu fod pob addysgwr yn ddysgwr yn gyntaf. Felly, rhaid bod yn barod i addasu, hyd yn oed os ydych wedi profi llwyddiant efo rhywbeth yn y gorffennol! Mae dulliau newydd (ac yn aml gwell) ar gyfer addysgu mathemateg yn cael eu darganfod trwy’r amser, ac mae’n ddiddorol treialu’r rhain yn y dosbarth a’u teilwra at ddibenion y dosbarth o’ch blaen. Mae dyfodiad technoleg a rhwydweithiau cymdeithasol wedi cyflymu’r broses yma, ac mae’n ddifyr darganfod gwefan newydd i’w dreialu, neu ddarllen neges sy’n awgrymu dull gwahanol o addysgu testun. Fel y tywod ar y traeth, mae’r broses o addysgu yn newid trwy’r amser, ac i fi mae’r wefr yn dod o ddarganfod techneg newydd a chael y cyfle i’w roi ar waith y diwrnod wedyn.