- Posted by: Educators Wales
Pob Disgybl, Pob Cyfle, Bob Dydd: Arwain gyda Phwrpas

Allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich cefndir a beth wnaeth eich ysbrydoli i fod yn Bennaeth?
Hyfforddais fel Athro Mathemateg Uwchradd yn Rhydychen a threuliais flynyddoedd cyntaf fy ngyrfa yn gweithio mewn Ysgol Uwchradd Fodern yn Princes Risborough yn addysgu Mathemateg. Yna, symudais yn ôl i Gymru yn 2005 a gweithio yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog ym mhen uchaf Cwm Rhondda am dros 13 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, symudais ymlaen o fod yn Ail mewn Mathemateg i Ddirprwy Bennaeth.
Yn 2017, cefais fy mhenodi'n Bennaeth Gweithredol Ysgol Idris Davies. Hon oedd yr ysgol cyfrwng Saesneg pob oed gyntaf i gael ei hagor yng Nghymru yn dilyn uno dwy ysgol gynradd ac ysgol uwchradd gyda dros 900 o ddisgyblion ar y gofrestr.
Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau'r disgyblion rydym yn eu gwasanaethu yn ein rolau ac, yn y pen draw, nid oes rôl fwy gwerth chweil na gwasanaethu ysgol fel pennaeth a gwybod y gwahaniaeth y gallwch ei wneud i ddysgwyr a'r gymuned gyfan.
Rwyf bob amser wedi cael fy ysgogi gan weledigaeth i greu amgylchedd ysgol lle gall disgyblion gyflawni'r fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain, er gwaethaf unrhyw rwystrau y gallent eu hwynebu. Eu bod yn cael y ddarpariaeth, y cyfleoedd a'r profiadau sy'n ehangu eu gorwelion, yn codi eu dyheadau ac yn eu galluogi i ddatblygu'n unigolion parchus, llwyddiannus, ffyniannus sy'n falch o'u treftadaeth, yn falch o'u cymuned ac yn falch o fod yn nhw eu hunain a'r hyn sydd ganddynt, a’r hyn y byddant yn ei gyflawni.
Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich rôl mewn addysg?
Rwy'n ystyried fy hun yn hynod lwcus i fod yn bennaeth ac yn arwain cymuned ysgol gyfan, gan ymdrechu i gyflawni ein gorau i ddysgwyr ein hysgol. Rwy'n credu'n wirioneddol mai dim ond trwy weithio mewn partneriaeth â'i chymuned leol y gall ysgol gyflawni ei gorau.
Mae rôl Pennaeth yn hynod amrywiol, ac nid oes dau ddiwrnod fyth yr un peth. Mae'n fraint wirioneddol yn y rôl hon i allu arwain timau mor amrywiol ar draws cymaint o agweddau ar waith ysgol. Creu'r amgylchedd a chyfleoedd nid yn unig i dyfu eich dysgwyr yn yr ysgol ond hefyd y staff sy'n gweithio gyda nhw ac yn gweld pob aelod o'ch cymuned yn ffynnu, gyda'i gilydd.
Beth ydych chi'n ei ystyried yw eich cyflawniad mwyaf fel Pennaeth?
Byddwn i'n ystyried mai fy nghyflawniad mwyaf fel Pennaeth oedd arwain sefydlu Ysgol Idris Davies i blant 3 i 18 oed. Roedd uno tair ysgol i greu ysgol newydd o bob oed yn rhoi cyfle unigryw i ni, fel cymuned, ddylunio a datblygu polisïau, systemau a gweithdrefnau a oedd yn darparu ar gyfer yr ystod oedran gyfan o ddisgyblion, a chwricwlwm a oedd yn darparu ar gyfer anghenion pob disgybl ar draws y continwwm dysgu cyfan.
Oherwydd union natur yr ysgol, i’r graddau mai hon oedd yr ysgol 3 i 18 oed gyntaf yng Nghymru, gyrrodd hynny bob haen o arweinyddiaeth yn yr ysgol i fod yn arloesol wrth ddatblygu ein harfer, herio'r sefyllfa oedd ohoni a gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr cynradd clwstwr i ddylunio darpariaeth i gyd-fynd ag anghenion ein cymuned.
Beth yw'r agweddau mwyaf gwerthchweil ar eich swydd?
Yr agwedd fwyaf gwerthchweil ar y rôl yw eich bod yn gadael y gwaith bod dydd yn gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth.
Mae'n hawdd iawn weithiau yn ein rolau ym myd addysg gael ein dal ym mhrysurdeb diwrnod ysgol, neu dymor, ac anghofio myfyrio ar effaith ein rolau a'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni ar y cyd fel cymuned ysgol. Mae'r heriau sy'n ein hwynebu mewn addysg ar hyn o bryd yn sylweddol, ond ni ddylem fyth golli ffocws na golwg ar ein diben craidd, sef ymdrechu i greu'r amgylcheddau dysgu gorau i'n disgyblion sy'n darparu ar gyfer eu holl anghenion.
Ni all fod dim yn fwy gwerth chweil na gallu dathlu gyda'r disgyblion eu llwyddiannau gan wybod bod eu cyflawniadau wedi bod yn bosibl oherwydd y gofal, y gefnogaeth a'r arweiniad y mae cymuned eich ysgol yn eu darparu i'w cefnogi i oresgyn unrhyw rwystrau y gallent eu hwynebu i gyflawni eu gorau.
A allwch chi rannu adeg neu brofiad penodol sy'n sefyll allan yn eich gyrfa?
Mae cymaint o adegau a phrofiadau o bob rhan o'm gyrfa sy'n sefyll allan i mi. Nodwedd allweddol pob un ohonynt yw gallu sefyll ochr yn ochr â chi ddysgwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau a dathlu eu cyflawniadau a'u llwyddiannau gyda nhw.
Teimlo balchder wrth wybod eu bod nhw wedi cyrraedd ble maen nhw ac wedi cyflawni beth maen nhw wedi'i gyflawni oherwydd y diwylliant a'r gymuned y mae'r ysgol yn lapio o'u cwmpas i feithrin eu doniau, cefnogi eu hanghenion a'u datblygu’n unigolion, a phan fyddant yn gadael cymuned eich ysgol, bydd ganddynt y sgiliau sy'n caniatáu iddynt fyw bywydau llwyddiannus lle byddant yn ffynnu a chyflawni'r hyn y gallant ei gyflawni.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried gyrfa mewn addysgu?
Treulio amser mewn ysgol, gyda phlant a sicrhau eich bod yn sicr eich bod eisiau addysgu. Mae'n yrfa sy'n rhoi cymaint o foddhad ond ar adegau gall fod yn heriol, gall fod yn anodd a'r dysgwyr sydd eich angen fwyaf weithiau yw'r anoddaf i'w cyrraedd.
Yr angerdd yw gwneud gwahaniaeth i fywydau plant o'r fath, trwy addysgu, a fydd yn rhoi'r penderfyniad a'r gwytnwch i chi chwalu'r rhwystrau hynny, a meithrin yr ymddiriedaeth honno gyda'r dysgwyr hynny sy'n anodd eu cyrraedd a gwneud y gwahaniaeth i'w bywydau, a’u galluogi i ymdrechu i wneud eu gorau er gwaethaf yr heriau y gallent eu hwynebu yn eu bywydau.
Pa briodweddau a sgiliau ydych chi'n meddwl sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y sector addysg?
Gwydnwch, dyfalbarhad, empathi a'r awydd i wneud gwahaniaeth.
Y gallu i wrando ar ddisgyblion, deall eu hanghenion a darparu ar gyfer yr anghenion hyn; dim ond pan fyddwn yn gwneud y pethau hyn yr ydym yn meithrin ymddiriedaeth gyda'n disgyblion, a’u bod yn gwybod ein bod yn poeni amdanynt ac eisiau'r gorau iddynt, y byddwn yn llwyddiannus yn ein rolau.
Mae addysgu yn ymwneud â pherthnasoedd; yn ymwneud â bod yn hyrwyddwr nad yw rhai o'n dysgwyr erioed wedi'i gael, ac efallai na fyddant fyth yn ei gael, ar wahân i'r oedolyn sy'n eu cefnogi, gofalu amdanynt a'u haddysgu yn yr ysgol. Felly, mae'n hanfodol nad oes yr un ohonom ym maes addysg yn tanamcangyfrif yr effaith a gawn, nad ydym byth yn tanamcangyfrif y gwahaniaeth y gallwn ei wneud a'n bod yn sicrhau mai'r un cyfle a gaiff plentyn ym myd addysg yw ei gyfle gorau sy'n ei sefydlu'n effeithiol am weddill ei oes.
Beth ydych chi'n meddwl yw'r priodweddau allweddol a arweiniodd at ennill Pennaeth y flwyddyn?
Rwyf bob amser wedi bod yn hynod frwdfrydig ynghylch gwneud gwahaniaeth i'r gymuned gyfan rydych yn ei gwasanaethu fel Pennaeth. Eich bod yn cymryd yr amser i wrando ar anghenion eich holl randdeiliaid a'ch bod yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer yr anghenion hyn drwy bopeth y mae gennych - y pŵer i wneud gwahaniaeth yn eich rôl fel Pennaeth.
Roedd yn fraint cael fy enwi’n Bennaeth y Flwyddyn, ac rwy'n teimlo'n falch iawn ac mae’n anrhydedd cael derbyn y wobr, ond rwy'n teimlo bod hynny'n dyst i waith caled ac ymroddiad y timau rwyf wedi'u harwain, a'r brwdfrydedd a'r penderfyniad y maent wedi'u dangos i wneud gwahaniaeth i fywydau'r disgyblion yr ydym yn eu gwasanaethu er mwyn cyflawni arwyddair yr ysgol, sef rhoi pob cyfle i bob disgybl, bob dydd.
Beth yw eich nodau fel addysgwr yn y dyfodol?
Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy mhenodi'n Bennaeth newydd Ysgol Gymunedol Aberdâr yng Nghwm Cynon. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r gymuned yn Aberdâr i barhau i adeiladu ar y gwaith rhagorol y mae'r ysgol eisoes wedi'i wneud i sicrhau ein bod yn parhau i fodloni anghenion ein dysgwyr ac yn rhagori ym mhob agwedd ar ein darpariaeth.
Rwy'n meddwl ei bod yn hanfodol, fel arweinwyr mewn addysg yng Nghymru, fod gennym y gred gref, a'r egwyddor arweiniol, ein bod ni i gyd yn gyfrifol am ddarparu'r addysg orau bosibl i bob dysgwr yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i feithrin cysylltiadau cydweithredol pellach yn Ysgol Gymunedol Aberdâr gydag ysgolion eraill ledled Cymru i rannu a datblygu arfer gorau i fodloni anghenion ein holl ddysgwyr.