MANYLION
  • Posted by: Educators Wales

Ffermio at y Dyfodol: Addysgu’r Genhedlaeth Nesaf

Ffermio at y Dyfodol: Addysgu’r Genhedlaeth Nesaf

Elli di ddweud ychydig wrthym am dy gefndir a beth ysbrydolodd di i fod yn ddarlithydd?
Fel pedwaredd genhedlaeth o ffermwyr mynydd, bu cysylltiad dwfn rhyngof i â’r tir a rhythmau amaeth erioed. Yn ifanc, wrth dyfu i fyny ar y fferm, datblygais werthfawrogiad dwfn o’r gwaith caled, yr ymroddiad a’r gwydnwch sydd eu hangen i gynnal y ffordd wledig hon o fyw.

Taniwyd fy angerdd am addysg gan awydd i rannu fy ngwybodaeth a’m profiad gyda phobl eraill. Rwy’ wastad wedi credu bod deall o ble mae ein bwyd yn dod yn hanfodol ar gyfer adeiladu cymdeithas fwy cynaliadwy a chysylltiedig. Mae ysbrydoli a chymell y genhedlaeth nesaf o ffermwyr ifanc wedi bod yn nod penodol, oherwydd i mi, nhw yw dyfodol ein diwydiant amaeth. Mae pontio’r bwlch rhwng cymunedau gwledig a chymunedau trefol yn agwedd bwysig arall ar fy ngwaith. Rwy’n credu y dylai pawb, ni waeth beth yw eu cefndir, gael cyfle i ddysgu am fwyd, ffermio a’r amgylchedd. Trwy feithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o fywyd gwledig, credaf y gallwn greu dyfodol mwy cydlynol a chynaliadwy.

Beth wyt ti’n ei garu fwyaf am dy rôl mewn addysg?
Ysbrydoli a mentora’r genhedlaeth nesaf yw un o’r agweddau mwyaf buddiol ar fod yn addysgwr. Mae gweld pobl ifanc yn datblygu eu sgiliau, eu hangerdd a’u hyder yn rhoi boddhad enfawr. Mae’n gymaint o fraint gallu addysgu pobl am bwysigrwydd cynhyrchu bwyd diogel, cynaliadwy a’i gysylltiad â natur a’r tir. Trwy amlygu’r berthynas rhwng bwyd, ein hamgylchedd a’r adnoddau y mae’n eu darparu, rwy’n cyfrannu at werthfawrogiad dyfnach o’n blaned a’i allu i gynnal bywyd. Mae’n brofiad gwirioneddol fuddiol gwybod bod fy ngwaith yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Hefyd, rwy wrth fy modd â’r cyfle i feithrin angerdd am ddysgu ac rwy’n annog myfyrwyr i archwilio syniadau newydd. Mae bod yn dyst i’r ennyd “bwlb golau” hwnnw, pan fydd myfyrwyr yn amgyffred cysyniad go iawn neu’n darganfod rhywbeth newydd yn rhoi boddhad mawr.

Beth yw dy gamp fwyaf fel darlithydd, yn dy farn di?
Mae ennill Darlithydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru a Ffermwr Benywaidd y Flwyddyn NFU Cymru yn gydnabyddiaeth arwyddocaol o’m cyfraniadau at addysg ac amaeth a dyma fy nghyflawniad mwyaf hyd yn hyn. Mae’r gwobrau hyn yn dangos fy ymrwymiad i fy myfyrwyr, fy arbenigedd yn y maes a fy ngallu i ysbrydoli a chymell pobl eraill. Hefyd, maen nhw’n amlygu pwysigrwydd cyfuno profiad ymarferol ag addysgu effeithiol.


Beth yw’r agweddau mwyaf buddiol ar dy swydd?

Fel darlithydd amaethyddol, yr agweddau mwyaf buddiol ar fy swydd yw’r cysylltiadau rwy’n eu meithrin gyda fy myfyrwyr a’r effaith gadarnhaol y gallaf ei chael ar eu dyfodol. Mae bod yn dyst i’w twf, eu datblygiad a’u cyflawniadau yn hynod foddhaus. Gwybod fy mod i’n helpu i lywio dyfodol amaethyddiaeth a chyfrannu at ddiwydiant mwy cynaliadwy. Mae gweld buddion go iawn fy ngwaith, fel myfyrwyr yn cael gyrfaoedd ystyrlon neu gyfrannu at arferion amaethyddol arloesol, yn rhoi llawer o foddhad. Yn ogystal, mae’r cyfle i gadw i fyny â’r datblygiadau diweddaraf mewn amaeth a rhannu’r wybodaeth honno gyda fy myfyrwyr yn ffynhonnell gyson o dwf personol a phroffesiynol. Mae meithrin perthnasoedd gyda fy myfyrwyr a chydweithwyr, a chreu amgylchedd dysgu cefnogol a chydweithredol, yn gwneud fy ngwaith hyd yn oed yn fwy pleserus ac ystyrlon.

A elli di rannu adeg neu brofiad penodol sy’n sefyll allan yn dy yrfa fel darlithydd?
Un o’r adegau mwyaf cofiadwy yn fy ngyrfa darlithio oedd yn 2023 pan gynhaliais i ddiwrnod agored ar y fferm i 200 o ddisgyblon o’n hysgol gynradd leol. Yn dilyn yr ymweliad, cefais nifer o lythyron o ddiolch gan grŵp o fyfyrwyr. Roedd clywed yr ymateb cadarnhaol gan y myfyrwyr wir yn galonogol. Mae’r llythyron o ddiolch yn dyst i werth fy ymdrechion i’w haddysgu nhw am bwysigrwydd ffermio a’i gyfraniad at y gymuned a’r tirlun. Roedd hi’n deimlad gwych gwybod fy mod i wedi gwneud argraff barhaol ar y meddyliau ifanc hyn, atgof pwerus o bwysigrwydd ein rôl fel addysgwyr a ffermwyr a’r dylanwad parhaus sydd gennym ar fywyd myfyrwyr.
 

Pa gyngor byddet ti’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa mewn addysg?

Wrth i fi ystyried gyrfa mewn addysg, sylweddolais i fod cael angerdd go iawn am ddysgu a rhannu gwybodaeth yn hanfodol. Mae amynedd yn hanfodol hefyd, gan fod addysgu’n aml yn cynnwys gweithio gyda myfyrwyr amrywiol a goresgyn heriau amrywiol. I fod yn llwyddiannus, roeddwn i’n gwybod bod angen sylfaen academaidd gref arna’ i, efallai trwy radd mewn addysg neu faes cysylltiedig. Byddai datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol i wybod y diweddaraf am y dulliau a’r tueddiadau addysgu diweddaraf. Mae cyfathrebu effeithiol ac empathi yn hanfodol ar gyfer meithrin perthnasoedd cadarn â myfyrwyr, rhieni a chydweithwyr. Mae hyblygrwydd yn allweddol hefyd, gan y gall cwricwla ac anghenion myfyrwyr newid yn gyflym. Mae’n bwysig blaenoriaethu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, rheoli straen a gofalu amdanoch eich hun i sicrhau gyrfa gynaliadwy. Gall gwirfoddoli yn y gymuned neu mewn diwydiant gynnig profiad gwerthfawr, a gall mentoriaeth a rhwydweithio ag addysgwyr eraill gynnig arweiniad a chymorth.
 

Pa rinweddau a sgiliau sy’n hanfodol i lwyddiant yn y sector addysg, yn dy farn di?
Fel addysgwr ymroddedig, rwy’n credu bod angerdd tuag at fy mhwnc ac addysgu yn hanfodol i’m llwyddiant. Rwy’n frwd iawn am wybodaeth ac awydd i’w rhannu â’m myfyrwyr. Mae empathi a dealltwriaeth yn hanfodol hefyd, gan eu bod yn caniatáu i mi gysylltu â myfyrwyr ar lefel bersonol a gwerthfawrogi eu hanghenion a’u safbwyntiau amrywiol. Mae cyfathrebu effeithiol yn hollbwysig i feithrin perthnasoedd cadarn gyda myfyrwyr, rhieni, cydweithwyr a gweinyddwyr. Mae amynedd a dyfalbarhad yn rhinweddau hanfodol, oherwydd gall addysgu fod yn heriol ar adegau, ac mae’n bwysig cynnal agwedd gadarnhaol hyd yn oed pan fyddwch yn wynebu rhwystrau. Mae hyblygrwydd yn allweddol hefyd, gan fod y tirlun addysgol yn esblygu’n gyson ac mae’n rhaid i mi allu addasu i dechnolegau newydd ac arddulliau dysgu amrywiol.
Mae sgiliau trefnu cryf yn hanfodol ar gyfer rheoli fy ystafell ddosbarth, graddio aseiniadau a pharatoi gwersi yn effeithiol. Yn olaf, mae ymrwymiad i ddysgu gydol oes yn hanfodol ar gyfer gwybod y tueddiadau addysgu a’r arferion gorau diweddaraf.

Beth yw’r rhinweddau allweddol a arweiniodd at ddyfarnu darlithydd y flwyddyn i ti, yn dy farn di?

Credaf fod fy angerdd tuag at amaethyddiaeth a fy ymrwymiad i lwyddiant myfyrwyr yn hanfodol i’m rôl. Mae gennyf frwdfrydedd gwirioneddol tuag at addysgu ac awydd i helpu fy myfyrwyr i gyrraedd eu potensial llawn. Mae fy nghysylltiadau cadarn â diwydiant a’m profiad ymarferol yn caniatáu i mi gynnig cipolygon gwerthfawr ac enghreifftiau go iawn sy’n cyfoethogi’r profiad dysgu. Rwy’n ymroi i baratoi fy myfyrwyr gyda’r sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa yn y dyfodol. Trwy wybod am y tueddiadau a’r arferion gorau diweddaraf mewn addysgu, rwy’n ceisio cynnal lefel uchel o ragoriaeth yn fy addysgu. Mae’r rhinweddau hyn, ar y cyd â chyfathrebu effeithiol, sgiliau trefnu cryf ac amgylchedd dysgu cadarnhaol a difyr, yn cyfrannu at yrfa addysgu foddhaus a buddiol.


Mae fy nghefndir ffermio a’m profiad o’r diwydiant yn amhrisiadwy. Mae’n rhoi safbwynt unigryw i mi y gallaf ei rannu â’m myfyrwyr. Rwy’n manteisio ar fy mhrofiadau personol i enghreifftio cysyniadau a’u gwneud yn fwy perthnasol. Mae fy ngwybodaeth uniongyrchol am arferion amaethyddol yn helpu myfyrwyr i ddeall yr agweddau damcaniaethol ar y pwnc. Yn fy amser hamdden, rwy wrth fy modd yn rhannu fy angerdd tuag at ffermio ac addysg. Fel athrawes, rwy’ wedi mireinio fy ngallu i esbonio pynciau cymhleth mewn ffyrdd syml, diddorol. Rwy’n defnyddio’r sgiliau hynny i farchnata ein busnes teuluol, gan greu darlun byw o’n fferm a’r cynnydd cynaliadwy, blasus rydym ni’n ei gynhyrchu. Trwy gysylltu pobl â’u bwyd ac o ble y daw, rwy’n gobeithio ysbrydoli gwerthfawrogiad dyfnach o amaethyddiaeth a’r tir.


Mae fy nghysylltiadau o fewn y diwydiant yn rhoi lleoliadau swydd a chyfleoedd mentora gwerthfawr i fyfyrwyr, gan roi cysylltiadau a phrofiad hanfodol i fyfyrwyr, yn barod ar gyfer y gweithle. Mae’r cysylltiadau hyn hefyd yn rhoi gwybod i mi am y tueddiadau, y technolegau a’r heriau diweddaraf yn y maes.


I sicrhau bod fy addysgu yn berthnasol ac yn gyfredol, rwy’n mynd i gynadleddau’r diwydiant, yn rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol, yn ymgynghori ag arbenigwyr, yn cynnwys digwyddiadau cyfredol yn fy narlithoedd, yn annog ymchwil gan fyfyrwyr ac yn defnyddio offer technoleg. Trwy gyfuno fy mhrofiad yn y diwydiant ac ymrwymiad i fod yn gyfredol, rwy’n ymdrechu i roi addysg werthfawr a pherthnasol i fy myfyrwyr, sy’n eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn amaeth.
 

Beth yw eich nodau yn y dyfodol fel addysgwr?
Fy nghenhadaeth addysgol yw llywio a symbylu pobl ifanc i archwilio a llwyddo yn y diwydiant amaethyddol. Mae gweithio mewn addysg ochr yn ochr â rhedeg y fferm deuluol yn caniatáu i mi ddatblygu fy ngweledigaeth ar gyfer cynaliadwyedd ffermio yng Nghymru. Mae diwylliant, treftadaeth a thraddodiadau yn rhan annatod o fodolaeth ffermio, ac rwy’ am gyfrannu at ei ddyfodol. Byddaf yn parhau i annog a meithrin ymdeimlad o stiwardiaeth y tir ac ymrwymiad i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Credaf fod addysg yn gonglfaen cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a diogelu cymunedau gwledig. Trwy baratoi unigolion â’r wybodaeth a’r sgiliau i ddeall a gweithredu arferion amaethyddol cynaliadwy, gallwn hyrwyddo stiwardiaeth amgylcheddol, ysgogi gwydnwch economaidd, cryfhau ymgysylltiad â’r gymuned ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.


Nid yw addysg yn y sector amaeth yn ymwneud â sgiliau technegol yn unig; mae’n ymwneud hefyd â meithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cydgysylltiad rhwng bwyd, yr amgylchedd a chymdeithas. Trwy fuddsoddi mewn addysg, gallwn greu dyfodol tecach a mwy cynaliadwy i’n cymunedau gwledig a’r blaned yn ei chyfanrwydd. I gloi, mae dyfodol addysgwyr amaeth yn addawol, ond bydd yn gofyn am hyblygrwydd, arloesedd ac ymrwymiad i roi i fyfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn tirlun amaethyddol sy’n newid yn gyflym. Rwy’n angerddol am lunio dyfodol amaeth Cymru trwy ddarganfod a gweithredu dulliau cynhyrchu bwyd arloesol a chynaliadwy sy’n grymuso ffermwyr â’r sgiliau angenrheidiol a’r meddylfryd ar gyfer llwyddiant tymor hir.