- Lleoliad: Abertawe
- Dechrau: 03 Ebrill, 2025 - 6:00 pm
- Diwedd: 03 Ebrill, 2025 - 7:30 pm
- Telerau: School
Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Mae Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr athrawon lleiafrifoedd ethnig fel bod gan ddysgwyr yng Nghymru weithlu addysg mwy amrywiol.
Ymunwch â ni yn ein Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Addysgwyr Cymru.
Gyda’r hwyr, bydd sgyrsiau gan y siaradwyr canlynol:
Aminur Rahman - Swyddog Recriwtio a Chymorth, Hyrwyddo Gyrfaoedd, Addysgwyr Cymru
Dr Russell Grigg, FFCT - Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol i Athrawon
Khudeza Siddika - Mentor Cymunedol Cydraddoldeb Hil AGA
Cyn-fyfyrwyr TAR Uwchradd
Myfyrwyr TAR Cynradd
Bydd lluniaeth ar gael i bawb sy'n mynychu.
Cadwch eich lle yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/pgce-open-evening-for-the-black-asian-and-minority-ethnic-community-tickets-1263795128249?aff=oddtdtcreator
Archwiliwch ein rhaglenni yma: www.abertawe.ac.uk/tar
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom ymholiadau-tar@abertawe.ac.uk