MANYLION
  • Lleoliad: Abertawe
  • Dechrau: 16 Hydref, 2024 - 6:00 pm
  • Diwedd: 16 Hydref, 2024 - 7:30 pm
  • Telerau: 
Mwy o wybodaeth

Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Prifysgol Abertawe

Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Prifysgol Abertawe

Mae Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr athrawon lleiafrifoedd ethnig fel bod gan ddysgwyr yng Nghymru weithlu addysg mwy amrywiol.

Ymunwch â ni yn ein Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Addysgwyr Cymru a'r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST)..

 

Gyda’r hwyr, bydd sgyrsiau gan y siaradwyr canlynol:

Aminur Rahman - Swyddog Recriwtio a Chymorth, Hyrwyddo Gyrfaoedd, Addysgwyr Cymru

Dr Russell Grigg, FFCT - Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol i Athrawon

Khudeza Siddika - Mentor Cymunedol Cydraddoldeb Hil AGA

Cyn-fyfyrwyr TAR Uwchradd

Myfyrwyr TAR Cynradd

 

Bydd lluniaeth ar gael i bawb sy'n mynychu.

 

Cadwch eich lle gyda'r gyda'r ddolen a ddarperir.

 

Archwiliwch ein rhaglenni yma: www.abertawe.ac.uk/tar

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom ymholiadau-tar@abertawe.ac.uk