MANYLION
  • Lleoliad: Ar-lein
  • Dechrau: 31 Gorffennaf, 2024 - 6:00 pm
  • Diwedd: 31 Gorffennaf, 2024 - 7:00 pm
  • Telerau: 
Mwy o wybodaeth

Noson Agored Rithwir TAR Uwchradd Cyfrifiadureg

Noson Agored Rithwir TAR Uwchradd Cyfrifiadureg

Mae rhaglen amser llawn TAR Cyfrifiadureg gyda Statws Athro Cymwysedig Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe, sy'n para am flwyddyn, yn dechrau ym mis Medi 2024.

 

Mae'r rhaglen arloesol hon wedi'i dylunio i wella eich gwybodaeth am y pwnc a'ch galluogi i ddatblygu arferion addysgu effeithiol a phroffesiynol. Byddwch yn gweithio'n gydweithredol gydag arbenigwyr pwnc yn ein hysgolion partner ledled Cymru yn ogystal â thiwtoriaid ac ymgynghorwyr academaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd eich astudiaethau'n cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd a lleoliadau mewn ysgolion.

Mae ystod o gymelliadau Llywodraeth Cymru gwerth hyd at £25,000 ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n astudio ar raglen TAR Cyfrifiadureg yng Nghymru.

 

Oes gennych chi ddiddordeb? Ymunwch â ni yn ystod ein Digwyddiad Rhithwir TAR Cyfrifiadureg a gynhelir ar 31 Gorffennaf rhwng 6.00pm a 7.00pm.

 

Yn ystod y digwyddiad hwn, bydd modd i chi gael mwy o wybodaeth am y cyfle cyffrous hwn, cwrdd â thîm a myfyrwyr y rhaglen TAR yn ein sesiwn Holi ac Ateb fyw ar Zoom.