MANYLION
- Lleoliad: Abertawe
- Dechrau: 04 Gorffennaf, 2024 - 10:00 am
- Diwedd: 04 Gorffennaf, 2024 - 2:00 pm
- Telerau:
Diwrnod Profiad Ysgol
Hoffem eich gwahodd i ddiwrnod profiad ysgol gyfrwng Cymraeg a gynhelir yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, Heol Ynysydarren, Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot, SA9 2DY ddydd Iau, 4 Gorffennaf rhwng 10.00am a 2pm.
Dyma amlinelliad o’r profiadau y cewch chi yn ystod eich ymweliad:
- Trosolwg o’r rhaglenni TAR a chefnogaeth y Gymraeg - staff Ysgol Gymraeg Ystalyfera a'r Brifysgol
- Profiadau athro newydd gymhwyso ar ein rhaglen TAR
- Arsylwi gwersi cynradd ac uwchradd
- Cyflwyniad gan Addysgwyr Cymru
- Panel disgyblion
- Sesiynau holi ac ateb
I archebu lle, dylid e-bostio Dr Lowri Williams, Cydlynydd Darpariaeth y Gymraeg ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon, erbyn dydd Llun, 1 Gorffennaf 10am:
lowri.a.williams@abertawe.ac.uk
Pethau i'w nodi:
- Dylid cyrraedd yr ysgol erbyn 9.45am er mwyn cofrestru yn y dderbynfa er mwyn gallu dechrau’n ymweliad yn brydlon am 10am.
- Gellir parcio ym maes parcio’r ysgol am ddim.
- Bydd egwyl byr gyda lluniaeth ysgafn ar gael ganol bore, ond dylid dod â phecyn bwyd ar gyfer cinio. Mae nifer o siopau bwyd lleol er mwyn prynu eich cinio ar y diwrnod os oes gwell gennych.
- Rydym yn cadw'r hawl i ganslo'r digwyddiad os nad oes digon o bobl yn cofrestru.