MANYLION
  • Lleoliad: Caerdydd
  • Dechrau: 25 Mehefin , 2024 - 10:00 am
  • Diwedd: 25 Mehefin , 2024 - 2:00 pm
  • Telerau: 
Mwy o wybodaeth

Prifysgol Abertawe - Diwrnod Profiad Ysgol Uwchradd

Prifysgol Abertawe - Diwrnod Profiad Ysgol Uwchradd

Hoffem eich gwahodd i ddiwrnod profiad Ysgol Uwchradd a gynhelir yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, Ffordd Llandennis, Cyncoed, Caerdydd, CF23 6WG, ddydd Mawrth 25 Mehefin rhwng 10.00am ac 2.00pm.

 

Bydd yr ymweliad yn gyfle i arsylwi ar wersi, cwrdd â rhai o dîm y Brifysgol yn ogystal â staff a disgyblion o un o'n Hysgolion Arweiniol.

 

Mae rhaglen yr ymweliad i'w gweld isod:

  • Croeso gan staff Ysgol Uwchradd Caerdydd a'r Brifysgol
  • Panel disgyblion
  • Cyflwyniad Addysgwyr Cymru
  • Arsylwi ar wers
  • Sesiwn holi ac ateb gydag athrawon newydd gymhwyso a thîm y brifysgol

 

Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gadw eich lle drwy'r ddolen erbyn dydd Llun 24 Mehefin 10am. 

Os bydd digon o bobl yn cofrestru rydym yn bwriadu cynnig cludiant o Brifysgol Abertawe, Campws Singleton SA2 8PP. Byddwch yn gallu archebu eich tocyn cludiant drwy'r ddolen uchod.