MANYLION
- Lleoliad: Abertawe
- Dechrau: 16 Ebrill, 2024 - 10:00 am
- Diwedd: 16 Ebrill, 2024 - 2:00 pm
- Telerau:
Prifysgol Abertawe - Diwrnod Profiad Ysgol Uwchradd

Hoffem eich gwahodd i ddiwrnod profiad Ysgol Uwchradd a gynhelir yn Ysgol Maesteg, Ffordd Dysgu, Maesteg, CF34 0LQ, ddydd Mawrth 16 Ebrill rhwng 10.00am ac 2.00pm.
Bydd yr ymweliad yn gyfle i arsylwi ar wersi, cwrdd â rhai o dîm y Brifysgol yn ogystal â staff a disgyblion o un o'n Hysgolion Arweiniol.
Mae rhaglen yr ymweliad i'w gweld isod:
- Croeso gan staff Ysgol Gyfun Maesteg a'r Brifysgol
- Panel disgyblion
- Cyflwyniad Addysgwyr Cymru
- Arsylwi ar wers
- Sesiwn holi ac ateb gydag athrawon newydd gymhwyso a thîm y brifysgol
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gadw eich lle drwy'r ddolen erbyn dydd Gwener 12 Ebrill am 10am
Os bydd digon o bobl yn cofrestru rydym yn bwriadu cynnig cludiant o Brifysgol Abertawe, Campws Singleton SA2 8PP i Faesteg. Byddwch yn gallu archebu eich tocyn cludiant drwy'r ddolen.