MANYLION
- Lleoliad: Llanelli
- Dechrau: 20 Chwefror, 2024 - 10:00 am
- Diwedd: 20 Chwefror, 2024 - 1:30 pm
- Telerau:
Prifysgol Abertawe - Diwrnod Profiad Ysgol Uwchradd
Oes gennyt ti ddiddordeb mewn addysgu? Bydd yr ymweliad yn gyfle i arsylwi ar wersi, cwrdd â rhai o dîm y Brifysgol yn ogystal â staff a disgyblion o un o'n Hysgolion Arweiniol.
Mae rhaglen yr ymweliad i'w gweld isod:
- Croeso gan staff Ysgol Bryngwyn a'r Brifysgol
- Panel disgyblion
- Arsylwi ar wers
- Sesiwn holi ac ateb gydag athrawon a thîm y Brifysgol
Cadwch eich lle fan hyn: pgce-enquiries@abertawe.ac.uk