MANYLION
  • Lleoliad: Caerdydd
  • Dechrau: 19 Mar, 2024 - 18:00
  • Diwedd: 19 Mar, 2024 - 19:30
Mwy o wybodaeth

Athrawon Cyfrwng Cymraeg Yfory - Prifysgol Met Caerdydd

Ydych chi’n chwilio am yrfa fel athro uwchradd neu cynradd? Ydych chi’n siarad Cymraeg? Dewch draw i’n noson recriwtio i ddysgu mwy am yrfa fel athro. Cyfle i chi glywed gan athrawon a darlithwyr am y proffesiwn addysg. Bydd panel cwestiwn ac ateb, a chyfle i holi myfyrwyr, athrawon, a thiwtoriaid Met Caerdydd.

 

Archebwch eich lle: https://app.geckoform.com/public/#/modern/21FO00wwrqsjii00i7c6h0048w

 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mwy o wybodaeth: https://www.metcaerdydd.ac.uk/education/cardiff-partnership/Pages/Study-in-Welsh.aspx

 

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar y cyd ag Addysgwyr Cymru.