MANYLION
  • Lleoliad: Ar-lein
  • Dechrau: 26 Chwefror, 2024 - 7:00 pm
  • Diwedd: 26 Chwefror, 2024 - 8:00 pm
  • Telerau: 
Mwy o wybodaeth

Noson Agored TAR y Brifysgol Agored

Noson Agored TAR y Brifysgol Agored

A hoffech chi newid eich gyrfa? A ydych chi'n ystyried dod yn athro?

Ymunwch â ni ar 26 Chwefror wrth i ni egluro sut allai cwrs TAR arloesol y Brifysgol Agored yng Nghymru eich cefnogi i ddechrau ar yrfa newydd yn y maes addysgu.

Cofrestrwch am ddim: https://OUWalesPGCEOpenEvening26Feb.eventbrite.co.uk

Yn ystod y digwyddiad ar-lein, bydd ein tîm TAR arbenigol yn egluro mwy am ein llwybrau TAR rhan amser a chyflogedig unigryw sydd wedi'u cynllunio i'ch galluogi i astudio o amgylch eich bywyd ac ennill cyflog wrth ichi ddysgu. Mae'r ddau lwybr yn eich galluogi i gydbwyso eich astudiaethau a'ch ymrwymiadau presennol fel bod yn rhiant, gofalu a gweithio.
Byddwch yn clywed gan ein hathrawon dan hyfforddiant presennol wrth iddynt drafod eu profiadau, a byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i'r panel.

Caiff y digwyddiad hwn gan y Brifysgol Agored yng Nghymru ei gyflwyno ar y cyd ag Addysgwyr Cymru.