MANYLION
  • Lleoliad: Abertawe
  • Dechrau: 13 Tach, 2023 - 18:00
  • Diwedd: 13 Tach, 2023 - 19:30
Mwy o wybodaeth

Noson Agored TAR

Noson Agored TAR

Mae Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr athrawon lleiafrifoedd ethnig fel bod gan ddysgwyr yng Nghymru weithlu addysg mwy amrywiol. Ymunwch â ni yn ein Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth ag Addysgwyr Cymru. Yn ystod y noson, bydd sgyrsiau gan Fentor Cydraddoldeb Hiliol Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) Prifysgol Abertawe yn ogystal â myfyrwyr cyfredol.

 

Gyda’r hwyr, bydd sgyrsiau gan y siaradwyr canlynol:

Aminur Rahman - Swyddog Recriwtio a Chymorth, Hyrwyddo Gyrfaoedd, Addysgwyr Cymru

Dr Russell Grigg, FFCT - Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol i Athrawon

Khudeza Siddika - Mentor Cymunedol Cydraddoldeb Hil AGA

Santhi Dosanjh - Cyn-fyfyrwyr TAR Bioleg

 

Bydd lluniaeth ar gael i bawb sy'n mynychu.

 

Cadwch eich lle yma: PGCE Open Evening for the BAME Community Tickets, Mon 13 Nov 2023 at 18:00 | Eventbrite

 

Archwiliwch ein rhaglenni yma: www.abertawe.ac.uk/tar

 

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom ymholiadau-tar@abertawe.ac.uk