- Lleoliad: Wrecsam
- Dechrau: 11 Hydref, 2023 - 12:30 pm
- Diwedd: 11 Hydref, 2023 - 6:30 pm
- Telerau:
Gyrfa Cymru Dewiswch Eich Dyfodol Sir y Fflint a Wrecsam

Gwahoddir disgyblion blynyddoedd 9 i 13 o ysgolion Sir y Fflint a Wrecsam, ynghyd â’u rhieni/gwarcheidwaid, i’n digwyddiad gyrfaoedd Dewiswch eich Dyfodol.
Dyddiad ac amser
Dydd Mercher 11 Hydref 2023, rhwng 12:30pm a 6:30pm
- 12:30am i 3:30pm, i ysgolion
- 3:30pm i 6:30pm, i rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr a’r cyhoedd
Lleoliad
Gwesty Ramada Plaza, Ffordd Ellice, Wrecsam LL13 7YH
Beth y gall y disgyblion ei ddisgwyl?
Cyfle i bobl ifanc glywed gan arbenigwyr mewn diwydiant o bob rhan o’r rhanbarth a siarad â nhw.
Bydd y bobl ifanc yn gallu cael gwybodaeth am:
- Gyrfaoedd
- Prentisiaethau
- Llwybrau hyfforddi
Mae hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion gael gwybodaeth gan bobl mewn diwydiant. Gallant ddarganfod beth mae cyflogwyr yn edrych amdano wrth recriwtio eu gweithlu a chael cipolwg ar y byd gwaith.
Bydd cynghorwyr gyrfa yn bresennol ar y diwrnod hefyd. Gallant ddarparu gwybodaeth am gael mynediad i wahanol swyddi, cyrsiau a chymwysterau
Camau nesaf
- Bydd gwahoddiadau yn cael eu hanfon i bob ysgol yn Sir y Fflint a Wrecsam
- Nid oes angen i rieni, gwarcheidwaid, gofalwyr a’r cyhoedd archebu lle