- Lleoliad: Abertawe
- Dechrau: 04 Hydref, 2023 - 9:00 am
- Diwedd: 05 Hydref, 2023 - 3:00 pm
- Telerau:
Gyrfa Cymru Dewiswch Eich Dyfodol Bae Abertawe

Gwahoddir disgyblion Blynyddoedd 10 ac 11 o ysgolion ar hyd a lled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i ŵyl gyrfaoedd Dewiswch Eich Dyfodol Bae Abertawe.
Dyddiad ac amser
- 4 Hydref, 9:00am i 3:00pm, i ysgolion
- 4 Hydref, rhwng 3:00pm i 6:00pm, i rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr a’r cyhoedd
- 5 Hydref, 9:00am i 3:00pm, i ysgolion
Lleoliad
Neuadd Brangwyn, Abertawe, SA1 4PE
Yr hyn y gall y disgyblion ei ddisgwyl
Bydd amrywiaeth o gyflogwyr yn mynychu’r ŵyl. Byddant yn darparu gwybodaeth am yrfaoedd a swyddi yn eu sector.
Gall pobl ifanc gael gwybod am:
- Swyddi
- Gyrfaoedd
- Prentisiaethau
Dyma gyfle gwych i ddisgyblion gael gwybodaeth gan bobl yn y diwydiant. Bydd yn gyfle iddynt ddarganfod beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano wrth recriwtio’u gweithlu a chael dealltwriaeth o’r byd gwaith.
Bydd Cynghorwyr gyrfa yno ar y diwrnod hefyd. Gallant ddarparu gwybodaeth am sut i gael gwahanol swyddi, cyrsiau a chymwysterau.