- Lleoliad: Abertawe
- Dechrau: 24 Ebr, 2023 - 18:00
- Diwedd: 24 Ebr, 2023 - 19:30
Noson Agored TAR

Mae Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr athrawon lleiafrifoedd ethnig fel bod gan ddysgwyr yng Nghymru weithlu addysg mwy amrywiol. Ymunwch â ni yn ein Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth ag Addysgwyr Cymru. Yn ystod y noson, bydd sgyrsiau gan Fentor Cydraddoldeb Hiliol Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) Prifysgol Abertawe yn ogystal â myfyrwyr cyfredol. Bydd lluniaeth ar gael i bawb sy'n mynychu.
Cadwch eich lle yma: PGCE Open Evening for the BAME Community Tickets, Mon 24 Apr 2023 at 18:00 | Eventbrite
Archwiliwch ein rhaglenni yma: www.abertawe.ac.uk/tar
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom ymholiadau-tar@abertawe.ac.uk