- Lleoliad: Ar-lein
- Dechrau: 15 Chwefror, 2023 - 7:00 pm
- Diwedd: 15 Chwefror, 2023 - 7:45 pm
- Telerau:
Newid eich gyrfa i addysu: Digwyddiad Ar-lein
Yn ystod y digwyddiad ar-lein, bydd ein tîm TAR arbenigol yn egluro mwy am ein llwybrau TAR rhan amser a chyflogedig unigryw sydd wedi'u cynllunio i'ch galluogi i astudio o amgylch eich bywyd ac ennill cyflog wrth ichi ddysgu. Mae'r ddau lwybr yn eich galluogi i gydbwyso eich astudiaethau a'ch ymrwymiadau presennol fel bod yn rhiant, gofalu a gweithio.
Byddwch yn clywed gan ein hathrawon dan hyfforddiant presennol wrth iddynt drafod eu profiadau, a byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i'r panel.
Caiff y digwyddiad hwn gan y Brifysgol Agored yng Nghymru ei gyflwyno ar y cyd ag Addysgwyr Cymru.
Cofrestrwch am ddim: https://OUWalesPGCEOpenEvening15Feb.eventbrite.co.uk