MANYLION
- Lleoliad: Casnewydd
- Dechrau: 30 Nov, 2022 - 10:00
- Diwedd: 30 Nov, 2022 - 15:00
Fforwm Rhanddeiliaid

Byddwch yn cael y cyfle i drafod eich arferion arweinyddiaeth eich hun gydag arweinwyr eraill a rhannu eich syniadau o ran sut y gall yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol eich cefnogi chi, eich lleoliad a’r sector addysg ehangach yng Nghymru.
Bydd cyfres o weithdai y byddwch yn gallu mynychu, dan arweiniad ein Cymdeithion, sy’n canolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth bwysig. Bydd cyfle hefyd i ddarganfod mwy am y ddarpariaeth arweinyddiaeth yr ydym wedi ei chymeradwyo trwy glywed gan y darparwyr eu hunain.