MANYLION
  • Posted by: Educators Wales

Cydlynydd Cwricwlwm

Cydlynydd Cwricwlwm

Pa mor hir wyt ti wedi bod yn diwtor i oedolion?
Dwi wedi bod yn gweithio yn HWB Dinbych ers 7 mlynedd. Yn fy swydd flaenorol roedd mynd i mewn i ysgolion a cholegau yn rhan fawr o fy rôl i. Dwi wastad wedi mwynhau dysgu, felly holodd fy ffrind i “Wel, beth am ddysgu sut i fod yn diwtor?”. Felly, dyna be wnes i! Wnes i fynd yn ôl i’r coleg er mwyn gweithio tuag at fod yn addysgwr.

Beth sy’n dy ysbrydoli di bob dydd?
Mae’r dysgwyr yn ysbrydoliaeth i mi a fyddai’n cael boddhad o help nhw i ddysgu a chefnogi eu taith i ennill cymwysterau. Helpu’r dysgwyr i gael swydd newydd, i oresgyn rhywbeth sy’n eu poeni nhw neu i drio rhywbeth newydd sy’n fy ysbrydoli i i fod yn y tiwtor gorau posib.

Be ydi peth gora chdi am ddysgu?
Y peth gorau i mi am fod yn diwtor ydi’r teimlad ‘mod i yn gwneud gwahaniaeth a dwi’n teimlo ‘mod i’n gwneud rhywbeth sy’n helpu’r myfyrwyr. ‘Da ni yma fel rhywun maen nhw’n gallu ymddiried ynddynt, ‘da ni yma i ateb cwestiynau a helpu nhw gydag unrhyw beth. Os mae unrhyw anhawster yn eu bywydau, problemau ariannol er enghraifft, ‘da ni’n gallu pwyntio i’r cyfeiriad cywir.

Mae fy nghydweithwyr yn un o’r pethau gorau am ddysgu, hefyd. Rydym ni i gyd yma am yr un nod, sef i helpu’r gymuned, a ‘da ni’n cyflawni hyn fel tîm. Mae gwybod ein bod ni’n bwysig ym mywydau’r myfyrwyr a’r ffaith eu bod nhw’n edrych ymlaen at ddod i mewn i’r coleg bob wythnos yn gwneud y gwaith papur yn werth y boen!

Beth ydi dy gamp fwyaf?
Rydym ni’n cael rhai myfyrwyr sydd dim ond yn dod i mewn am ddwy awr yr wythnos, felly mae’n anodd weithiau i ddod i’w adnabod cystal ag yn cymryd fwy o amser i fagu ffydd y myfyrwyr ynom ni. Pan mae’r ffydd yna yn cael ei fagu’n llwyddiannus, mae hynny’n tipyn o gamp i mi ac rwy’n falch iawn pan mae hynny’n digwydd. Mae’n agor y drws i ni allu helpu nhw a’u cefnogi nhw drwy eu cyfnod o addysg gyda ni.

Pa mor bwysig ydi dy rôl di?
Dwi’n gobeithio bod fy rôl i reit bwysig! Fydda i a’r tîm yn gweithio gyda’n gilydd yn dda a dwi’n meddwl wrth gyfuno ein sgiliau ni i gyd y byddwn ni’n creu'r awyrgylch gorau i ddysgu sgiliau gydol-oes.

Mae addysg yn galluogi unigolion i adnabod eu potensial, potensial na fyddan nhw wedi ei sylweddoli heb eu bod nhw wedi dod yma i’r coleg!

Be fydd dy gyngor di i rywun arall sy’n dymuno dod yn Gydlynydd Cwricwlwm?
Mae’n sialens, ond mae o’n ddiddorol ac yn amrywiol gyda bob wythnos. I ddweud y gwir, tydw i ddim yn gweld fy hun fel Cydlynydd Cwricwlwm. Dwi’n gweld fy hun fel rhywun sydd yna i helpu ac i gefnogi’r myfyrwyr. Dwi yma i helpu’r myfyrwyr i gyrraedd eu nod, boed hynny’n parhau gydag addysg neu dod o hyd i swydd newydd.

Dwi’n mwynhau gweld y myfyrwyr yn dysgu a’r foment pan mae rhywbeth yn clicio gan fyfyriwr ac maen nhw’n dysgu rhywbeth newydd, toes dim byd gwell a dwi’n falch iawn o fy rôl i yn hynny.