MANYLION
  • Posted by: Educators Wales

Yusuf Ibrahim, Pennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro

Yusuf Ibrahim, Pennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro

Yn ddiweddar, bum yn ddigon ffodus i gael y cyfle i siarad ag Yusuf Ibrahim, Pennaeth Cynorthwyol
yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ac Aelod Bwrdd yn y National Academy for Educational Leadership.
Daliwch ati i ddarllen i ddarganfod mwy am daith gyrfa cyffrous Yusuf a'i waith yn yr NAEL!


Dywed ychydig wrthym am dy daith drwy dy yrfa hyd yn hyn!
Wedi fy magu mewn teulu o addysgwyr, gyda fy nhad a fy nhaid yn gweithio fel athrawon a fy mam
fel cynorthwyydd addysg, treuliais fy mlynyddoedd cynnar yn benderfynol o beidio â bod yn athro!
Fodd bynnag, roeddwn yn eithaf ansicr ar ba lwybr gyrfa y dylwn ei ddilyn. Er bod cyngor gyrfaoedd
ar y pryd yn llawer mwy cyfyngedig nag y mae heddiw, roeddwn wedi darganfod fy mod yn mwynhau
chwaraeon a phynciau academaidd, sy'n esbonio fy newis o astudio gradd Athroniaeth a Chwaraeon
yn y brifysgol. Er fy mod wedi bod yn benderfynol i beidio â dilyn gyrfa yn y byd addysg, pan gododd
y cyfle i astudio cymhwyster addysg ar ôl gadael y brifysgol, meddyliais, 'Pam ddim?' Ers hynny, dydw
i ddim wedi edrych yn ôl! Yn ystod fy amser yn astudio ar gyfer y PGCE, roeddwn i wir yn teimlo fy
mod wedi cael fy nhaflu i’r pen dwfn wrth wella a datblygu’r sgiliau sy’n hanfodol wrth addysgu.
Ychydig ar ôl cwblhau’r cymhwyster, bûm yn athro Addysg Grefyddol mewn ysgol yng Ngogledd
Llundain. Yn ystod fy 7 mlynedd gyntaf o ddysgu yn Llundain, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fy
mod wedi gwneud nifer o gamgymeriadau. Serch hynny, drwy nodi'r sgiliau, y wybodaeth, a'r
adnoddau a allai helpu i sicrhau fy mod yn dysgu o'm camgymeriadau, yn fuan iawn, roeddwn yn
gallu cydnabod y sgiliau a'r cymwyseddau craidd sy'n hollbwysig mewn proffesiwn addysgu: bod yn
berson hawddgar; bod â deallusrwydd emosiynol; a bod â ffocws clir ar wneud penderfyniadau ar sail
tystiolaeth.


A wnes ti gymryd rhan mewn unrhyw rolau ehangach yn ystod blynyddoedd cyntaf dy yrfa?
Rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig gwerthfawrogi addysg fel llifeiriant llorweddol o unigolion
a grwpiau, yn amrywio o’r gallu addysgu i reoli cyllid i’r addysg a yrrir gan y gymuned. Gyda hyn
mewn golwg, cefais fy mhenodi’n Bennaeth y Gwyddorau Cymdeithasol yn yr ysgol, ac o’r swydd hon
y deuthum yn Bennaeth Tŷ, gan weithio mewn rôl fugeiliol i ddatblygu’r amrywiaeth eang o sgiliau
sy’n hanfodol ar draws y maes addysgu llorweddol. Trwy fy ngwaith, roedd gen i ddiddordeb yn y
ffordd y mae’r holl elfennau o fewn ysgol yn cydweithio i ganiatau sefydliad addysg i ffynnu ac i
sicrhau bod y myfyrwyr yn llwyddo o fewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae fy rôl fel Pennaeth
Chweched, yn ogystal â’m cyfranogiad yn un o’r prosiectau Action Research cyntaf yn y DU, yn
dangos sut rwyf bob amser yn awyddus i ehangu fy mhrofiadau a fy sgiliau tra hefyd yn datblygu fy
rôl o fewn sefydliad addysgol!


Felly beth ddoth â thi i i Gymru i ddilyn dy gyrfa yn y byd addysg?
Cefais rai llwyddiannau anhygoel ym Mryste, gan arwain chweched dosbarth a oedd mewn perygl o
gau i feithrin hunaniaeth gref, gan gyflawni rhai o’r canlyniadau gorau erioed. Ond dysgais yno hefyd
y pwysigrwydd o fod yn arweinydd llwyddiannus ar draws y meysydd. Roedd gen i amrywiaeth o
adnoddau arwain effeithiol, ond roeddwn i hefyd yn naïf ac yn gwneud camgymeriadau. Rwy’n
cofio’n benodol un digwyddiad yr oeddwn wedi’i gynllunio yr oeddwn yn teimlo yr aeth yn arbenning
o wael! Gan fy mod yn berffeithydd – ac o bosibl yn rhy hunanfeirniadol ar brydiau – darganfyddais,
er fy mod yn feddyliwr creadigol, fod angen i mi ddysgu sut i gyfleu fy syniadau eang i bob
cynulleidfa, er mwyn iddynt allu deall y llwybr sydd y tu ôl i’r syniadau. Mae fy amser ym Mryste yn
sicr wedi fy mowldio i fod yr arweinydd yr ydw i heddiw ac rwy'n edrych yn ôl arno fel cyfnod o
ddysgu eang.
Wrth edrych draw i Gymru, ni allwn ddeall pam yr oedd ysgolion ac awdurdodau lleol Cymru yn
treulio cymaint o amser yn ceisio ailadrodd yr hyn yr oedd ysgolion dros y ffin yn ei wneud pan mae’r
ddemograffeg a’r amgylchiadau economaidd-gymdeithasol yn wahanol iawn. Er gwaethaf y
cyfraddau rhifedd a llythrennedd a oedd o dan safon Lloegr, nid oedd unrhyw reswm pam na allai
Cymru gael un o’r systemau addysg gorau yn y byd, ac roeddwn i wir eisiau bod yn rhan o’r newid
hwnnw. Gyda hynny mewn golwg, roeddwn yn ddigon ffodus i ddechrau gweithio yng Ngholeg
Caerdydd a’r Fro. Mae'n debyg y dylwn nodi hefyd fy mod yn hoff o'r acen, felly roedd symud i
Gymru yn benderfyniad hawdd i'w wneud!


Pa gyfleoedd dysgu proffesiynol sydd wedi dy gefnogi fwyaf yn ystod dy yrfa?
Yn bwysicach na dim, rydw i wedi cael modelau rôl gwych sydd wedi fy nysgu am bwysigrwydd bod
yn agored i adborth a chyngor: ar ddiwedd y dydd, mae gan bawb gryfderau a gwendidau gwahanol
ac mae angen i ni fod yn fwy cyfforddus gyda'r nodweddion personoliaeth gwahanol hyn a, hefyd, i
fod yn gyfforddus i drafod rhain ag eraill mewn ffordd mor wrthrychol â phosibl ac o fewn set graidd
o werthoedd proffesiynol. Er nad yw’n esgus dros berfformiad gwael, rwyf wedi dysgu pwysigrwydd
gwerthfawrogi’r cysyniad ein bod ar sbectrwm o gryfderau. Cymerwch Usain Bolt er enghraifft: ni
fyswn yn hoffi bod mewn ras gydag ef dros y 100m, ac eto rwy'n siŵr bod rhai meysydd lle byddai fy
sgiliau i o fantais. Mae bod yn gyfforddus â’n gwendidau, neu, yn fwy cyffredinol, bod yn gyfforddus â
cholli rhai cyfleoedd datblygu sgiliau, yn hollbwysig o fewn a thu hwnt i’n bydd addysg. Er y byddwn
bob amser yn ystyried fy hun yn ‘yes man’, mae’n bwysig gwerthfawrogi y bydd rhai cyfleoedd yn
pylu – boed hynny o ganlyniad i ddiffyg adnoddau, amser, neu dim ond drwy fod yn gyfforddus â’n
gwendidau. Mae llawer o’r sgiliau hyn, wrth gwrs, yn bwysig wrth ystyried rôl athro fel arweinydd,
ond mae’n ymddangos bod lluniad cymdeithasol o fod yn arweinydd wedi cynnig ei hun i’r syniad
bod arweinwyr yn fwy gwerthfawr na’r rhai sy’n cael eu harwain. Er bod gan bawb y gallu i fod yn
arweinydd, mae gan rai, wrth gwrs, y nodweddion a fydd yn eu gwneud yn arweinwyr gwell. Dyma’n
union pam mae rheoli talent yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu dibrisio
drwy beidio â chymryd rôl arweinydd: ni allwn gael sefydliadau yn llawn arweinwyr yn yr un
meysydd. Yn yr ystyr hwn, mae’n bwysig gwerthfawrogi pwysigrwydd gwrth-gydbwyso ein
cymdeithas unigolyddol gref â’r gwerth a ddaw yn sgil cyfunoliaeth.


Pa welliannau sydd eu hangen i wneud addysg yn fwy deniadol fel llwybr gyrfa?
Gan ein bod ni i gyd wedi cael profiad o addysg ffurfiol ar ryw adeg yn ein bywydau, mae gan bob un
ohonom ein rhagdybiaethau ynghylch yr hyn sy'n fframio’r byd addysg. Mewn gwirionedd, mae rhai
o'r rhagfarnau mwyaf yn bodoli yn yr ystafell ddosbarth; mae angen inni wrthweithio'r rhagfarnau
hyn er mwyn amlygu dealltwriaeth wirioneddol o addysg fel opsiwn gyrfa eang a chadarnhaol. Mae
angen ei gwneud yn glir bod ystod eang o yrfaoedd ar draws y maes addysg llorweddol: mae addysgu
yn gymaint mwy na dim ond marcio papurau! Felly i unrhyw berson ifanc sy’n ystyried gyrfa mewn
addysg, gofynnwch i chi’ch hun: ‘pa fath o addysgwr ydw i eisiau bod?’ a ‘pa yrfaoedd o fewn addysg
sy’n gydnaws â’m sgiliau i?’ Unwaith eto, cofiwch bob amser fod addysg, er ei bod yn cynnwys
llifoedd fertigol o bynciau (hanes, mathemateg, gwyddoniaeth ac yn y blaen), hefyd yn gofyn am
ddatblygiad llorweddol o sgiliau trwy unigolion a all fod yn arbenigwyr yn eu maes pwnc-benodol
ond sydd hefyd â chymwyseddau cryf mewn, er enghraifft, marchnata, cyllid, neu gyfryngau gwaith.
Fodd bynnag, os ydych chi'n hoffi gweithio mewn amgylchedd ddeinamig ac arloesol sy'n seiliedig ar
ddatrys problemau, mae yna yrfa mewn addysg i chi. Gellir ddweud yr un peth am addysgwyr sydd
am symud ymlaen i swydd arwain, ond eto, wrth gwrs, mae'r angen i fod yn berson hawddgar sy'n
rheoli newid ac sy'n derbyn ac yn llunio adborth yn gadarnhaol yn bwysicach fyth yn yr amgylchiadau
hyn.


Dywed fwy wrthym am dy rôl fel aelod bwrdd yn NAEL!
Roeddwn wrth fy modd i gael fy mhenodi’n aelod bwrdd ar ôl proses gystadleuol i gael fy newis!
Cefais fy ysbrydoli’n arbennig gan y dull unedig a ddefnyddiwyd mewn perthynas â’r haen ganol o
arweinyddiaeth yng Nghymru. Ymhellach, roedd gennyf ddiddordeb mewn brwydro yn erbyn her
cydweithredu traws-sector. Gall pob sector ymgolli cymaint ac arbenigo yn eu meysydd eu hunain fel
ei bod yn mynd yn anodd codi eich pen uwchben y parapet ac i gofio ein bod yn rhan o un system
eco addysgol. Addysg Bellach, Ysgolion, Diwydiant… Mae gan bob un ohonynt rôl i’w chwarae wrth
gyfathrebu’n fwy effeithiol, a credaf bo’r NAEL yn gorff perffaith i hwyluso’r newid hwn trwy’r ffocws
cryf ar arweinyddiaeth systemau. Yn fwy penodol, rwy’n mwynhau mentrau rhwydwaith y rhaglen,
yn enwedig yn ei nod o gynyddu amrywiaeth y gynrychiolaeth ar draws swyddi arweinyddol yng
Nghymru. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd yr Academi yn datblygu yn y dyfodol!