- Posted by: Educators Wales
Ysgol Bro Dinefwr: Edrych i'r Dyfodol
‘Ie yw’r ateb bob amser.’ Gan fabwysiadu ethos arloesol, blaengar i’w strategaeth addysgol, mae Ysgol Bro Dinefwr, ysgol uwchradd ddwyieithog yn Ffairfach, Sir Gaerfyrddin, wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn amrywiaethu eu dull ymarferol o ddysgu drwy greu Datblygiadau Dysgu Awyr Agored. Gan ganolbwyntio eu menter ar y cwricwlwm cenedlaethol newydd sy’n cael ei gyflwyno ar draws Cymru, mae maes dysgu amlbwrpas a thrawsgwricwlaidd Ysgol Bro Dinefwr yn enghraifft brototeip o sut y gall cydweithio rhwng gwahanol adrannau’r ysgol, yn ogystal â rhanddeiliaid o fusnesau lleol, ymateb i rai o heriau’r 21ain ganrif.
Gan gynnal gwersi wedi'u hamserlennu am y tro cyntaf ym mis Medi 2022, ar ôl 3 blynedd o ymchwil a datblygu ar y prosiect newydd, nod yr ysgol yw manteisio ar allu trawsnewidiol y datblygiadau o ran gwella iechyd meddwl y myfyrwyr a staff gan fynd i'r afael â materion cynaliadwyedd ar yr un pryd. Gan fyfyrio’n benodol ar golli metawybyddiaeth a dulliau dysgu hunanreoleiddio yn ystod y pandemig, nod y Datblygiadau Dysgu Awyr Agored yw cefnogi myfyrwyr i feddwl yn fwy penodol am yr hyn maent wedi ei ddysgu. Yn Ysgol Bro Dinefwr, siaradodd Ian Chriswick, Pennaeth Cynorthwyol a Chydlynydd Datblygiadau Dysgu yn yr Awyr Agored, â ni yn angerddol am ymroddiad yr ysgol i ddarparu addysg awyr agored. Darllenwch ymlaen i weld beth ddysgon ni am y datblygiad diweddaraf.
Pam penderfynodd Ysgol Bro Dinefwr adeiladu’r Datblygiadau Dysgu Awyr Agored hyn?
Wedi’i seilio’n bennaf ar yr egwyddor o gefnogi cyflwyniad y cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae’r Datblygiadau Dysgu Awyr Agored yn rhoi cyfle i’r ysgol ddarparu ar gyfer myfyrwyr o bob gallu, cefndir, ac oedran. Maent hefyd yn caniatáu ymgorffori dulliau gweithredu ar y cyd yn y cwricwlwm tra’n gwerthfawrogi gwerth dysgu trwy ddull prosiect.
Pa gynnydd mae’r ysgol eisoes wedi’i wneud wrth adeiladu’r Datblygiadau Dysgu Awyr Agored?
Yn barod wedi adeiladu dosbarth awyr agored gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy, yn ogystal â llwyfan perfformio yn seiliedig ar gydweithrediad yr ysgol ag adrannau celfyddydau mynegiannol, mae myfyrwyr a staff Ysgol Bro Dinefwr wedi gweithio’n ddiwyd i sicrhau bod y prosiect yn cwrdd â’i nodau o drawsnewid yr ysgol i fod yn ganolfan carbon niwtral.
Gan wella potensial addysgol y Datblygiadau Dysgu Awyr Agored, mae'r pyllau gwyllt a grëwyd ar draws y prosiect wedi darparu cyfleoedd pellach ar gyfer addysgu'r ecoleg leol yn ymarferol trwy astudiaethau cynhwysfawr o ecosystem y pwll yn ogystal â'r rhywogaethau o fflora a ffawna sy'n bresennol yn yr amgylchedd. Yn hollbwysig, mae hyn yn cydredeg â phartneriaeth yr ysgol gyda Magnificent Meadows Cymru i ddatblygu dôl o flodau gwyllt ar y safle, gan hybu ymhellach y cyfle i ddysgu am fioamrywiaeth yr ardal.
Yn ogystal, mae creu system dal dŵr a dyfrhau yn rhoi’r cyfle i greu gosodiad hydroponig yn y dyfodol. Yn yr hir-dymor, ymgysylltu myfyrwyr â'r amgylchedd ac ysbrydoli cariad at y byd naturiol sydd, yn y ben draw, yn cynorthwyo ymdrechion cadwraeth yn y dyfodol gan mai addysg yw lle mae'n rhaid i gynnydd tuag at sero net ddechrau; dyma'n union y mae sefydlu'r Clwb Garddwriaeth yn anelu i’w gyflawni!
Fodd bynnag, gyda gwelliant mewn canlyniadau addysgol traddodiadol, mae’r cyfle yn codi i’r myfyrwyr a’r staff faeddu eu dwylo drwy greu twnnel polythen a 15 o welyau garddio lle mae’r dysgwyr wedi bod yn brysur yn plannu llawer o ffrwythau a llysiau, yn amrywio o frocoli a tomatos i letys a phys melys. Ar raddfa ehangach, mae gobaith y bydd plannu 44 o goed ffrwythau ar y safle yn rhoi cyfle i wneud jamiau a chynhyrchion eraill!
Pa gynlluniau sydd ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol?
Yn yr hir-dymor, mae yna gynlluniau i leoli dwy orsaf dywydd ar y safle er mwyn asesu a thracio lefelau llygredd. Gallai'r gorsafoedd hyn gasglu data byw i fonitro ansawdd aer yn yr ysgol ac o'i chwmpas gyda'r nod o allu dadansoddi tueddiadau dros amser. Mae'r ysgol yn gobeithio y byddai datblygiad o'r fath yn hwyluso prosiectau ymchwil rhyngddisgyblaethol tra hefyd yn hyrwyddo addysgu cyfrifiadureg gan ddefnyddio microbitau, yn benodol trwy gydweithio â ffermwyr lleol. Mae partneriaethau o’r fath yn hollbwysig yn nhwf y Datblygiadau Dysgu Awyr Agored, ac maent yn ymestyn hyd yn oed ymhellach y tu hwnt i’r gorsafoedd tywydd: mae cynlluniau hefyd i weithio gyda Chymdeithas Cadw Gwenyn Cymru i greu ardal cadw gwenyn. Byddai gwneud hynny yn annog prosiectau trawsgwricwlaidd sy’n dadansoddi pwysigrwydd y gwenyn yn yr ecosystem tra’n hybu hunan-ddatblygiad trwy roi cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â’r cychod gwenyn i’r myfyrwyr.
Ymhellach, mae cynlluniau hefyd i symud tuag at ofal anifeiliaid trwy gynnwys rhediad hwyaid a chyw iâr ar y safle. Nid yn unig y bydd hyn yn caniatáu i'r ysgol gyflwyno cwrs lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid i fyfyrwyr (a fyddai'n cael ei gynnig fel cymhwyster amgen i Lefel A), ond byddai hefyd yn helpu yn ei hymgyrch gyffredinol ar gyfer cynaliadwyedd. Mae'r holl ddatblygiadau hyn yn y dyfodol ar y cyd â chynigion ar gyfer: popty pitsa a fydd yn defnyddio'r cynnyrch a dyfir ar y safle; gwasanaeth carolau dros y Nadolig; gardd synhwyraidd i Ganolfan Cothi sy'n gwasanaethu disgyblion ag ASD; a'r posibilrwydd o greu gardd heddwch gyda choed helyg.
Sut mae datblygiadau dysgu awyr agored wedi effeithio ar eich addysgu neu ddatblygiad proffesiynol eich hun?
Roeddwn i'n athro mathemateg pan ddechreuais i'r prosiect, felly doedd gen i ddim yr amser na'r awdurdod i gael effaith ar bethau mor gyflym ag y byddwn wedi dymuno. Yn ffodus, daeth swydd pennaeth cynorthwyol i fyny ac roeddwn yn ddigon ffodus i'w chael ac yna llwyddodd y prosiect i symud ymlaen yn gyflymach. O ran datblygiad proffesiynol, mae nawr gen i brofiad o reoli prosiectau, creu ceisiadau am gyllid, gweithio gyda SAUau, creu cysylltiadau â'r gymuned leol a hefyd llawer mwy o wybodaeth am arddwriaeth, tirlunio ac eco-adeiladu.
Pam ydych chi'n mwynhau'r elfen awyr agored o ddysgu?
Mae'n amgylchedd mwy naturiol ac iach i ddysgwyr a staff weithio ynddo. Maent yn fwy hamddenol, sy'n mynd i fod yn gynyddol bwysig wrth i ni wella o'r pandemig a hefyd fel ymateb i bryder hinsawdd.
A oes gennych unrhyw gyngor i addysgwyr eraill sydd am greu mannau dysgu awyr agored?
Mae’n bwysig i gael cynllun clir, ei gostio ac yna ymgysylltu â'r corff llywodraethu a'r gymuned leol i wneud iddo ddigwydd