MANYLION
  • Posted by: Educators Wales

Tiwtor Oedolion

Tiwtor Oedolion

Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn y sector addysg?

Dechreuais weithio fel Tiwtor Oedolion ar ddechrau 2021. Cyn hynny, roeddwn yn chwaraewr pêl-droed proffesiynol i Bury; Arwyddais i'r tîm yn 2010. Wedyn es i i America i chwarae pêl-droed diolch i ysgoloriaeth. Pan ddaeth yr ysgoloriaeth i ben, ddois yn ôl i'r DU ac roeddwn eisiau dod o hyd i bwrpas newydd.

Dechreuodd fy swydd fel Tiwtor Oedolion yn ystod y cyfnod clo gan fy mod eisiau cefnogi athrawon sy'n cael trafferth gyda'u hyder, eu hiechyd meddwl, a helpu'r rhai sy'n teimlo eu bod wedi'u gorlethu gan y pandemig.

Beth oedd y sbardun tu ôl i Tales To Inspire?

Sefydlais Tales To Inspire o ganlyniad i’r pandemig; roedd yn bwysig i mi adeiladu cymuned feithringar ar gyfer y rheini sy’n addysgu o dan amgylchiadau mor heriol.
Mae Tales To Inspire yn gyfres o raglenni chwech i wyth wythnos sydd wedi'u cynllunio i gefnogi oedolion sy'n dysgu, athrawon a chynorthwywyr addysgu. Mae gan bawb eu hanes eu hunain i egluro sut y cyrhaeddon nhw ble maen nhw heddiw. Roeddwn i eisiau creu llwyfan i bobl siarad am hyn ac ysbrydoli eraill i beidio â rhoi’r gorau iddi. Mae’n caniatáu i bobl rannu eu taith unigryw mewn gobaith i ysbrydoli eraill i beidio â rhoi’r gorau iddi.
Creais y fenter gymdeithasol hon fell y gallwn rannu straeon pobl bod wythnos i ysgogi eraill a dangos nad oes unrhyw beth na allwch ei oresgyn. Mae'r straeon yn cael eu hadrodd mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys podlediadau ac ar-lein.
Hyd yn hyn mae wedi bod yn llwyddiannus, mae'r straeon yn cael eu darllen mewn 84 o wahanol wledydd. Mae 35 o wledydd ledled y byd yn gwrando ar y podlediadau, a nawr rydyn ni hefyd yn cynnal gweithdai.

Beth sy’n eich cymell i ysbrydoli a chefnogi pobl bob dydd?

Mae gen i dipyn o gymhellion ac maen nhw i gyd yn deillio o fy mhrofiadau personol. Un ohonyn nhw oedd cael fy ngwrthod o oedran ifanc a byth yn gallu ffitio i mewn. Roeddwn i'n meddwl mai pêl-droed fyddai’r ffit gorau i mi ac roeddwn i'n meddwl pe bawn i'n gweithio'n galed, byddwn i'n llwyddo, ond nid oedd byth yn gweithio allan. Sylweddolais fod angen i mi greu fy lle fy hun a ffitio i mewn i hynny.
Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ysbrydoli pobl i aros yn driw i bwy ydyn nhw go iawn a’u hannog i beidio â gadael eu personoliaethau wrth y drws.
Cymhelliant arall yw fy iechyd meddwl, mae'n rhywbeth rydw i bob amser wedi brwydro ag ef ac mae'n bwysig grymuso eraill gan fod pawb ar eu taith eu hunain.
Rwyf am helpu pobl i weld eu potensial a gwneud newidiadau unigol, nid yn unig i wella eu hunain, ond hefyd eu cyd-ddisgyblion, cydweithwyr, a theulu.

Sut olwg sydd ar ddiwrnod arferol yn y gwaith i chi?

Mae fy rôl yn gwbl hyblyg ac yn newid o ddydd i ddydd yn dibynnu ar y galw. Rwy'n treulio llawer o amser yn cynllunio gwersi neu'n creu prosiectau. Does dim un diwrnod byth yr un fath a dyna sy’n wych am weithio ym myd addysg.
Mae yna lawer o gynllunio ar gyfer y myfyrwyr, ac rydw i wrth fy modd yn eu cyflwyno. Mae’n deimlad gwych pan welwch eich gwaith yn wirioneddol ysgogi ac ysbrydoli eraill.

Beth yw'r peth gorau am eich swydd?

Un o fy hoff agweddau o’r swydd yw cynnal gweithdai i’r athrawon a’r myfyrwyr. Mae'r gweithdai yn caniatáu i'r myfyrwyr agor fyny a chael sgyrsiau gonest. Mae'n dangos iddynt y gallant gyflawni pethau nad oeddent erioed wedi meddwl y gallent.
Peth gwych arall am y gweithdai yw'r adborth anhygoel y mae'r dysgwyr yn ei ddarparu. Mae’n anhygoel clywed sut rydych chi wedi eu helpu, ond mae’n wych eu gweld yn ymestyn allan o’u mannau cysurus a bod yn fwy hyderus. Rwyf wrth fy modd yn darllen trwy adborth gan ei fod hefyd yn caniatáu i mi addasu fy sesiynau ymhellach.

Ydych chi erioed wedi cael eich ysbrydoli gan unrhyw bobl ifanc yn ystod eich gwaith?

Rwy’n cyfarfod â chymaint o fyfyrwyr ysbrydoledig drwy’r amser a dyna beth rydw i’n ei garu am fy swydd. Roedd un o fy myfyrwyr yn ansicr ar ei lwybr gyrfa ac roedd angen rhywfaint o gyfeiriad yn ei fywyd. Trwy’r sesiynau, tyfodd ei hyder, a gwnaethom ddarganfod ei fod eisiau bod yn rhan o’r gwasanaeth tân. Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig i mi gan ei fod yn swil pan wnaethon ni gyfarfod gyntaf ac nid oedd yn gwybod pa lwybr gyrfa yr oedd am ei ddilyn.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth unrhyw un sydd eisiau gweithio yn y sector addysg?

Byddwn i'n dweud y dylech chi fynd amdani yn bendant. Mae’n ddiwydiant gwerth chweil ac rydych chi’n cael gweld pobl o bob cefndir a dysgu am eu teithiau. Mae'r rôl mor amrywiol, ac rydych chi'n gweithio gyda phobl newydd drwy'r amser sy'n ei wneud hyd yn oed yn fwy diddorol.