MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Desg Wasanaeth Llinell Gyntaf Ysgolion TGCH

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Swyddog Desg Wasanaeth Llinell Gyntaf Ysgolion TGCH

G06 £26,421 - £27,803 y flwyddyn

Llawn Amser - 37 awr yr wythnos

Rydym yn chwilio am unigolyn talentog, creadigol sy'n meddwl yn dechnegol i ymuno â Gwasanaeth Cefnogi TGCh ein Hysgol sy'n ymestyn.

Er mwyn cynnal safon uchel o gefnogaeth i'n Hysgolion, rydym i'n dymuno penodi swydd lawn amser yn ein desg gwasanaeth llinell gyntaf prysur.

Bydd gennych brofiad addas a chymwys ond yn bwysig iawn, rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sy'n gyfforddus yn rheoli eu hamser eu hunain, yn gallu blaenoriaethu gwaith yn effeithiol ac yn cydnabod pwysigrwydd cyflawni dangosyddion perfformiad allweddol ac amcanion a amlinellir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth.

Mae sgiliau datrys problemau ardderchog yn hanfodol yn y swydd dechnegol hon, byddwch yn gyfathrebwr da gyda sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar rhagorol, a byddwch yn hyderus wrth ddarparu cymorth i ddefnyddwyr gydag ystod o sgiliau a phrofiad technegol.

Mae angen gwiriad Safonol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 3 Mawrth 2024

CYFWELIADAU: 14 Mawrth 2024