MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Arweinydd Clwb Brecwast (Ysgol Llangors)

Arweinydd Clwb Brecwast (Ysgol Llangors)

Cyngor Sir Powys
Arweinydd Clwb Brecwast (Ysgol Llangors)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Mes Bach yn lleoliad Cyn-ysgol poblogaidd, llwyddiannus sy'n meithrin disgyblion, a leolir yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Llangors.

Ar ddydd Llun 4ydd Medi, bydd lleoliad Cyn-ysgol Mes Bach yn ymestyn i ddarparu gofal adeg brecwast ac ar ôl Ysgol i blant 3 - 11 oed. Yr enw ar y ddarpariaeth fydd Gwiwerod.

Rydym yn recriwtio ar gyfer Arweinydd a Chynorthwyydd ar gyfer y Clwb Brecwast, yn ogystal ag Arweinydd a Chynorthwyydd ar gyfer y Clwb ar ôl Ysgol.

Noder: er yr ystyrir fod yr hyfforddiant/cymwysterau a nodir yn hanfodol, gallwn ystyried ymgeiswyr sy'n fodlon sicrhau eu bod yn meddu ar, neu'n gweithio tuag at, gyrraedd yr hyfforddiant/cymwysterau priodol cyn cychwyn ar y swydd, ac ni ddylid ystyried hyn yn rhwystr i ymgeisio.

I ddysgu rhagor ynghylch cymwysterau gwaith chwarae, gweler gwefan Chwarae Cymru: Cymwysterau a hyfforddiant - Play Wales

Rydym yn hapus i ystyried gwaith rhan-amser.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech drafod unrhyw beth, croeso ichi gysylltu â Harriet Wadsworth (Unigolyn Cofrestredig Mes Bach) head@llangorse.powys.sch.uk neu drwy ffonio: 01874 658 663