MANYLION
  • Lleoliad: Oakdale,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Gweinyddol L3

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cynorthwy-ydd Gweinyddol L3
Disgrifiad swydd

I ddechrau mis Mawrth 2024 (yn amodol ar yr holl wiriadau recriwtio a diogelu)

Lefel 3 – Gradd 5

Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd am benodi person profiadol, dibynadwy a brwdfrydig i ymuno â staff yr ysgol a chynorthwyo rhedeg swyddfa brysur yn yr ysgol. Byddwch chi'n gweithio’n agos gyda’r Pennaeth, Cynorthwywyr Gweinyddol Amser Llawn, Llywodraethwyr a’r Uwch Dîm Arwain i barhau i ddatblygu’r ysgol a rhannu ein hymrwymiad i ddysgu, cynnydd a lles ein holl blant a staff.



Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig, llawn cymhelliant a dyfeisgar sy'n mwynhau gweithio ar ei ben ei hun ac fel rhan o dîm. Bydd yn sefydlu perthnasoedd adeiladol gyda'r holl randdeiliaid ac yn dangos sgiliau cyfathrebu rhagorol ar bob lefel.

Rydyn ni'n gwahodd pobl i ymgeisio o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol sy’n gallu dangos y gallu i weithredu’n strategol ac sy’n rhannu ein hangerdd dros addysg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • Yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig, llawn cymhelliant a dyfeisgar;
  • Yn fedrus wrth lywio systemau TG a phobl; bydd profiad blaenorol o ran SIMS ac Excel yn ddymunol;
  • Yn gyfathrebwr hynod effeithiol sy'n dangos y gallu i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynorthwyo ein hethos croesawgar;
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm ymroddedig a gweithgar;
  • Yn drefnus ac ag agwedd hyblyg tuag at ddyletswyddau'r swydd a'r gwaith sydd angen ei wneud yn yr ysgol.

Gallwn ni gynnig y canlynol i chi:
  • “Cymuned ddysgu fywiog. Mae bron pob un o’r disgyblion yn dangos agwedd hynod gadarnhaol at ddysgu ac yn cymryd rhan lawn mewn tasgau unigol a thasgau grŵp cydweithredol. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos lefelau eithriadol o hyder ac annibyniaeth o oedran cynnar iawn. Maen nhw'n gwrtais iawn ac yn barchus tuag at oedolion a’i gilydd ac yn dangos cryn ofal ac ystyriaeth tuag at eraill” Estyn 2014
  • Corff Llywodraethu profiadol, ymroddedig ac effeithiol;
  • Rhieni ymgysylltiol â diddordeb a chymuned weithgar;
  • Tîm gweithgar o weithwyr proffesiynol dawnus;
  • Cymorth a her;
  • Ysgol Bartner Arweiniol Prifysgol De Cymru;
  • Ysgol fodern, gyda chyfarpar da sy'n anelu'n barhaus at fod y gorau;

Gweler y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person yn y dogfennau atodedig

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Mr Craig George ar 01495 222829.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol ar 01495 222829. Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau i Mr Craig George, Pennaeth, ar Maes-y-Garn Road, Oakdale, Blackwood NP12 0NA / Georgep6@sch.caerphilly.gov.uk