MANYLION
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £21.49 - £39.30 / awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Achlysurol (Ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin)

Coleg Sir Gar

Cyflog: £21.49 - £39.30 / awr

Darlithydd Achlysurol (Ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin)
Department: Prosiectau

Employment Type: Dim Oriau

Location: I gael ei gadarnhau

Reporting To: Rheolwr Arloesi

Compensation: £21.49 - £39.30 / awr

DescriptionMae Uned Datblygu Busnes y Coleg wedi derbyn y contract i ddarparu Cronfa Ffyniant Gyffredin Sir Gaerfyrddin i gyflwyno sgiliau Gofal a sgiliau cysylltiedig i oedolion a chyflogeion yn ein rhanbarth.

Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i athro rhagweithiol a dyfeisgar chwarae rôl bwysig wrth gyflwyno sgiliau, hyfforddiant a chymwysterau gofal ar leoliadau aml-safle o fewn Sir Gaerfyrddin lle caiff y prosiect Skills 24 ei gyflwyno.

Mae'r rôl yn allweddol i gyflwyno targedau ein prosiect yn llwyddiannus ac fe fydd yn cefnogi a monitro gweithgarwch allgymorth tiwtoriaid cymunedol, yn ymgysylltu ag oedolion ac yn datblygu sgiliau.

Trwy'r amgylchedd ymgysylltiol a chymuned ganolog hwn, bydd Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wrth wraidd datblygu sgiliau newydd a chefnogi'r rheiny sydd am wella eu sgiliau presennol.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Ymgymryd â'r gwaith o addysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio sy'n arwain at gymwysterau/ardystio yn un o'r meysydd canlynol o leiaf:
  • Sgiliau Rhifedd (Ardystiedig gan Agored Cymru)
  • TGAU Mathemateg
  • Sgiliau Hanfodol mewn Rhifedd (Lefelau E3 i 2)
  • Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu (Lefelau E3 i 1)
  • Sgiliau Gofal (Ardystiedig gan Agored Cymru)
  • Sgiliau Gofal Cymdeithasol (Ardystiedig gan Agored Cymru)
  • Cymorth Cyntaf (Cymhwyster Highfield)
  • Cymwysterau Iechyd a Diogelwch (Cymwysterau Highfield)
  • Lles (Cyrff dyfarnu amrywiol)
  • Iechyd Meddwl (Cymwysterau Highfield)
  • Hyfforddi'r Hyfforddwr (Amrywiol)
  • Ôl-ffitio (NOCN)
  • Sgiliau Gwyrdd / Sero Net (Amrywiol)
  • Tystysgrif mewn Rheolaeth Amgylcheddol (IEMA)
    • Cyflwyno dysgu pwrpasol gyda dull arloesol er mwyn ennyn diddordeb oedolion sy'n anodd eu cyrraedd yn ein cymunedau.
    • Cysylltu'n agos â chydlynydd y prosiect er mwyn ymateb gyda modelau cyflwyno i fodloni anghenion unigolion.
    • Cyfrannu at gyfarfodydd y prosiect gan roi adborth ar gynnydd a materion sy'n codi.
    • Cefnogi gyda marchnata a recriwtio yn ôl yr angen
    • Cysylltu â staff Cymorth Technegol a/neu Hyfforddwyr/Arddangoswyr i sicrhau bod adnoddau effeithiol o ansawdd uchel yn cael eu cynhyrchu a'u rhannu â'r tîm ehangach
    • Datblygu amgylchedd cefnogol sy'n creu profiad dysgwr unigryw i'r rhai mwyaf anodd eu cyrraedd yn ein cymuned
    • Ysbrydoli a chefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus gyda dilyniant ar raglenni єhyfforddi'r hyfforddwr' yn ôl yr angen

    Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
    • Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth
    • TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
    • Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
    • Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
    • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
    • Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
    • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
    Dymunol:
    • Cymhwyster addysgu
    • Profiad addysgu perthnasol
    • Profiad o weithio yn y sector gofal
    • Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
    • Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
    • Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
    • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
    • Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
    • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
    • Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
    Yr Iaith Gymraeg:
    • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 1-4
    • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 1-4
    Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

    Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

    Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

    Buddion
    • Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 51 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
    • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
    • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
    • Cynllun seiclo i'r gwaith
    • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
    • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein