MANYLION
  • Lleoliad: Caerphilly,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd
Disgrifiad swydd
Ysgol Gynradd a Meithrinfa Cymunedol Graig-y-rhaca

Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd – Gradd 6

Dyddiad dechrau: Cyn Gynted a phosibl neu yn amodol ar wiriadau cyn cyflogaeth llawn.

Contract: 32.5 awr rhan amser a pharhaol (8.40am – 3.40pm yn ddyddiol)

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd a Meithrinfa Cymunedol Graig-y-rhaca yn awyddus i benodi aelod i'n tîm sydd wedi ymrwymo i ddatblygu ymgysylltu â rhieni a chymorth emosiynol a lles i'n disgyblion a'u teuluoedd.

Diben y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yw gweithio ochr yn ochr â Phennaeth yr ysgol, yr Uwch Dîm Arwain a'r tîm staff cymorth gyda disgyblion a'u teuluoedd sydd angen cymorth penodol. Mae'n rôl amrywiol gyda'r ffocws ar gynorthwyo ac ymgysylltu â disgyblion a'u teuluoedd, yn enwedig yn dilyn effaith Covid-19. Y gwerth sy'n sail i'r gwaith yw sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni ei botensial trwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu, cyfeirio at wasanaethau ac ymyrraeth. Dan gyfarwyddyd y Pennaeth, bydd y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn cyfrannu at bob agwedd ar les a chyflawniadau disgyblion, gan sicrhau bod presenoldeb a phrydlondeb yn flaenoriaeth uchel.

Rydyn ni'n chwilio am rywun sydd:

  • Yn gyfathrebwr cryf
  • Yn gynnes ac yn hawdd siarad â chi
  • Yn gweithio'n galed ac yn gallu dangos gallu i ddefnyddio'ch menter eich hun
  • â gwybodaeth am bolisïau/codau ymarfer a deddfwriaeth perthnasol mewn perthynas ag addysg a lles/amddiffyn plant
  • yn gallu hyrwyddo gwerthfawrogiad rhieni a theuluoedd o bwysigrwydd presenoldeb, addysg a dysgu
  • yn gallu cysylltu'n effeithiol gydag amrywiaeth o asiantaethau allanol gan gynnwys Gwasanaethau i Blant
  • yn fodlon gweithio i annog perthnasoedd da a deialog gadarnhaol rhwng rhieni a'r ysgol i ddatblygu parch, dealltwriaeth a hyder i bawb.

Gallwn ni gynnig y canlynol i chi:

  • tîm cefnogol, ymroddedig a chyfeillgar sy'n anelu at ragoriaeth
  • plant sy'n ymddwyn yn dda, sy'n hapus ac yn awyddus i ddysgu
  • ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd

Byddai profiad blaenorol o gynorthwyo teuluoedd a phlant sy'n agored i niwed yn fanteisiol.

Am Ddisgrifiad Swydd a Manyleb y Person manwl, gweler y dogfennau atodedig.

I wneud cais am y swydd, anfonwch eich llythyr o ddiddordeb at y Pennaeth drwy e-bost (thainn1@sch.caerphilly.gov.uk) neu'n ysgrifenedig erbyn dydd Gwener, 26 Ionawr 2024 neu wneud cais drwy eTeach.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Nicola Thain ar 02920 852516.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.