MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: Rheoleiddiwr
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Dyddiol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon - Penodi aelodau

Cyngor y Gweithlu Addysg
Rhyddhau eich potensial a helpu i lunio dyfodol addysg yng Nghymru.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn chwilio am unigolion talentog a chydwybodol i ymuno â’r Bwrdd Achredu AGA.

O dan gadeiryddiaeth Dr Hazel Hagger, mae'r bwrdd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau rhagoriaeth broffesiynol rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), sy’n paratoi darpar addysgwyr i gyrraedd Statws Athro Cymwysedig yng Nghymru.

Rydym yn chwilio’n arbennig am aelodau â phrofiad helaeth ar lefel uwch mewn meysydd megis Addysg Gychwynnol Athrawon, ysgolion, arolygu, addysg uwch, sicrwydd ansawdd, a rheoleiddio proffesiynol. Rydym hefyd yn chwilio am gofrestryddion presennol (yn enwedig uwch arweinwyr) sy’n gweithio yn y sector addysg orfodol yng Nghymru ar hyn o bryd.

Os gallwch gyfrannu’ch amser, profiad ac arweinyddiaeth am o leiaf 20 diwrnod y flwyddyn ac os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn, yna lawrlwythwch y pecyn cais, a gwnewch gais erbyn 23 Chwefror 2024.

Gweler y linc ynghlwm: