MANYLION
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 14 Ionawr, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Rheolwr Ymgysylltu a Chontractau Dysgu Oedolion yn y Gymuned (DOG) (Partneriaeth GDd Cymru)
Cyngor Wrecsam
Disgrifiad
Rheolwr Ymgysylltu a Chontractau Dysgu Oedolion yn y Gymuned (DOG) (Partneriaeth GDd Cymru)
37 awr yr wythnos - Yn ystod tymor yr ysgol yn unig
Graddfa 08 £32,076 - £34,834 (Pro-rata)
Rydym yn chwilio am unigolyn hynod frwdfrydig i fod yn Rheolwr Ymgysylltu a Chontractau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn gweithio o fewn y Gwasanaeth Addysg ac Ymyrraeth Gynnar yn CBSW, a fydd yn gyfrifol am gydlynu darpariaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar ran Partneriaeth GDd Cymru.
Deiliad y swydd fydd y pwynt cyswllt ar gyfer DOG ar draws GDd Cymru, gan ddarparu cyngor a chanllawiau i bartneriaid darparu, dysgwyr, cyflogwyr ac ysgolion. Bydd gofyn hyrwyddo cyfranogiad mewn cyrsiau darparwyr arweiniol a chyrsiau partneriaeth DOG eraill trwy weithgareddau ymgysylltu ar draws Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae profiad cadarn o reoli timau, cyllidebau, cynllunio strategol a darparu gwasanaethau yn hanfodol. Mae hyn yn cynnwys rheoli asesiadau strategol/allanol, gan gynnwys rhai Estyn, archwiliadau ariannol apharatoi adroddiadau a gwerthusiadau y mae Llywodraeth Cymru'n gofyn amdanynt.
Rydym yn chwilio am unigolyn gyda sgiliau cyfathrebu gwych sydd wedi arfer gweithio gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau dysgu o ansawdd uchel, gan gynnig cyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu a'u galluogi i ddatblygu.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i weithio'n hybrid o gartref ac o'r swyddfa yn Adeiladau'r Goron, Wrecsam. Bydd angen i chi fod yn dal trwydded yrru lawn, lân a gallu teithio'n rheolaidd i amrywiol leoliadau ar hyd a lled Wrecsam a Sir y Fflint.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â rachael.southwell@wrexham.gov.uk neu dawn.spence@flintshire.gov.uk
Mae Partneriaeth DOG GDd Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc, ac yn disgwyl i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus gael Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.