MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Testun:
- Cytundeb:
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad 'Rhagorol' yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Aur Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Rhan Amser (0.8FTE), Parhaol
Graddfa Gyflog: £30,620 - £47,331 (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Golofn Gyflog Uwch)
Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyflwyno ein cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol o lefel 2 i lefel 3.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, rhaid i chi gael profiad profedig a chymhwysedd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a meddu ar gymwysterau addysgu perthnasol. Mae'r rôl hefyd yn gofyn fod yr ymgeisydd yn gallu cyfathrebu (yn ysgrifenedig ac ar lafar) drwy gyfrwng y Gymraeg, a gellir darparu hyfforddiant i gefnogi'r gofyniad hwn.
Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria bydd gofyn i chi ddarparu dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i'n dysgwyr. Hefyd byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles myfyrwyr bob amser.
Cymorth Ail-leoli
Rydyn ni'n deall bod symud yn gallu bod yn drawsnewid sylweddol. Dyma pam rydyn ni wedi ymrwymo i'ch cefnogi chi'n ariannol os oes gennych chi ddiddordeb mewn ail-leoli o du hwnt i'ch ardal chi i ddechrau swydd gyda ni. Os hoffech chi wybod rhagor am y cymorth rydyn ni'n gallu ei ddarparu, cysylltwch â ni ar recriwtio@cambria.ac.uk. Rydyn ni'n cynnig cymorth er mwyn gwneud i'r profiad o symud i gartref newydd fod mor ddidrafferth â phosib.
Gofynion Hanfodol
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig

- Cymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
- Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
- Gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i'w harfer
- Sgiliau Llythrennedd Digidol Da
- Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu