MANYLION
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Lles

Coleg Sir Gar
Swyddog Lles
Application Deadline: 12 December 2023

Department: Lles

Employment Type: Parhaol - Llawn Amser

Location: Campws Pibwrlwyd

Reporting To: Pennaeth Cefnogi Dysgwyr a Lles

Compensation: £19,453 - £23,572 / blwyddyn
DescriptionMae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i benodi staff a fydd yn dangos menter a brwdfrydedd ac a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da'r Coleg trwy ymrwymiad i weithio fel aelod o dîm a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel.

Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i unigolyn rhagweithiol a dyfeisgar i weithio fel rhan o'r tîm cefnogi dysgwyr yn y coleg a bydd yn cyfrannu at genhadaeth y tîm o “weithio gyda'n gilydd i ddarparu cefnogaeth ragorol i ddysgwyr”.

Mae'r tîm cefnogi dysgwyr yn gyfrifol am ystod o swyddogaethau gan gynnwys: cymorth dysgu; arweiniad; profiad gwaith; cynghori; cymorth ariannol; llety; cyswllt myfyrwyr; llais y dysgwr; rheoli ymddygiad; diogelu; lles; cydraddoldeb ac amrywiaeth; cydlynu elusennau; gwirfoddoli; tiwtorial personol; rheoli absenoldeb; cynefino.

Yn bennaf bydd y swydd hon yn darparu cyngor a chymorth ariannol a llety i ddysgwyr a bydd yn cefnogi dysgwyr i ymgysylltu ag undeb y myfyrwyr a gweithgareddau "llais y dysgwr" eraill.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Weithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer yr holl ddysgwyr, rhieni a staff mewn perthynas â materion lles dysgwyr, i gefnogi ac atgyfeirio lle bo'n briodol; Gweithio'n agos gyda Thîm Lles ehangach y coleg, gan gynnwys Cydlynwyr, Mentoriaid a Chynghorwyr;
  • Gweinyddu Cronfa Ariannol Wrth Gefn y Coleg (FCF) a chynorthwyo'r adran gyllid gyda chwblhau'r ffurflenni ariannu blynyddol i Lywodraeth Cymru;
  • Hyrwyddo a chynghori dysgwyr, rhieni a staff am yr ystod o gyllid myfyrwyr perthnasol sydd ar gael, gan gwmpasu Addysg Bellach (Cronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF), Lwfans Cynnal Addysg (EMA), Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG)) ac Addysg Uwch (Benthyciadau Myfyrwyr, Bwrsariaethau ac ati);
  • Gweithio ar y cyd â Swyddfeydd Cyllid, Derbyn, y Gofrestrfa, Staff Academaidd a Swyddfeydd Campws y coleg i gefnogi'r swyddogaethau yn 2.3 a 2.4;
  • Cefnogi dysgwyr gyda'r broses ymgeisio ar gyfer 2.3 a 2.4;
  • Gweithio gyda dysgwyr i hyrwyddo cyfleoedd ar draws pob campws i ymwneud â gweithgareddau Undeby Myfyrwyr a chefnogi Undeb y Myfyrwyr lle bo angen. Trefnu, creu a chyflwyno etholiadau Undeb y Myfyrwyr yn electronig. Cefnogi'r swyddogion etholedig er mwyn helpu i ffurfio tîm cryf;
  • Cefnogi presenoldeb Undeb y Myfyrwyr yng Nghynhadledd flynyddol UCM Cymru gan gynnwys aros dros nos lle bo angen;
  • Gweithio gyda thiwtoriaid i nodi cynrychiolwyr dosbarth ar gyfer paneli dysgwyr, grwpiau ffocws a gweithgareddau “llais y dysgwr” eraill gan gynnwys cynadleddau coleg blynyddol a chyflwyno hyfforddiant perthnasol;
  • Ymgysylltu â phob dysgwr i hyrwyddo cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau'r coleg, sesiynau tiwtorial a gweithdai;
  • Hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau trwy gyfathrebu trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, Google Classrooms, Grwpiau Sgwrsio pwrpasol ac ati;
  • Cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau perthnasol yn rhaglen diwtorial y coleg a chynorthwyo i'w datblygu a chyfrannu atynt;
  • Cynghori dysgwyr ar y llety sydd ar gael i fyfyrwyr pan fo angen;
  • Hyrwyddo cynllun Cariad y coleg, gan annog enwebiadau ar gyfer gwobrau a chefnogi digwyddiadau elusennol i godi arian ar gyfer yr elusennau enwebedig ar draws y coleg ac ar y campysau unigol;
  • Hyrwyddo diwylliant o Barch, Bod yn Ddiogel a Bod yn Garedig ym mhob agwedd ar fywyd y coleg; Cefnogi (pan fo angen), gwaith y Tîm Lles ynghylch diogelu, Plant sy'n Derbyn Gofal, Gofalwyr a Gofalwyr Ifanc;
  • Gweithio ar draws campysau amhenodedig, o bell ac wyneb yn wyneb ar draws Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr pan fo hynny'n berthnasol;
  • Sefydlu a chynnal perthnasoedd da gyda budd-ddeiliaid mewnol ac allanol a sefydliadaui gynorthwyo wrth gynnig rhwydwaith cefnogi rhagorol i ddysgwyr;
  • Darparu ystadegau wythnosol diweddar a chywir ar bob agwedd ar y rôl yn ôl yr angen;
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Cymhwyster perthnasol hyd at Lefel 4
  • Profiad perthnasol o weithio mewn amgylchedd tebyg
  • Profiad o gefnogi ystod eang o ddysgwyr
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys

Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein