MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Swyddog Gweithredol
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,542 - £31,446
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 08 Rhagfyr, 2021 11:55 y.p

This job application date has now expired.

Uwch Swyddog Rhyngwladol

Uwch Swyddog Rhyngwladol

Coleg Gwyr Abertawe
Mae cyfle wedi codi yn y Swyddfa Ryngwladol ar gyfer unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol i ymuno â’r tîm.

Bydd y rôl yn cynnwys goruchwylio gofynion cydymffurfio’r adran a byddwch yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth ar gyfer holl weithgarwch sy’n gysylltiedig ag UKVI ac ECORYS. Bydd gofyn i chi hefyd gofrestru myfyrwyr rhyngwladol a gweithio ar raglenni symudedd y Coleg.

Byddwch hefyd yn gyfrifol am reoli’r tîm Rhyngwladol a llwythi gwaith yn absenoldeb y Pennaeth Rhyngwladol.
• Monitro cydymffurfiad adrannol.

• Rheoli system UKVI SMS a phob un sy’n adrodd i’r Swyddfa Gartref.

• Yn gyfrifol am gynhyrchu CAS, cymorth fisa, casglu BRP, a chofrestriadau heddlu ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol presennol a darpar fyfyrwyr rhyngwladol.

• Monitro cydymffurfiad ar gyfer cyrff rheoleiddio UKVI ac ECORYS.

• Sicrhau bod ffeiliau myfyrwyr yn barod i’w harchwilio ar gyfer rhaglenni UKVI a symudedd myfyrwyr.

• Cynnal yr wybodaeth ddiweddaraf am ofynion cydymffurfio UKVI ar gyfer y Llwybr Myfyrwyr a chategorïau eraill, yn ôl yr angen.

• Derbyn myfyrwyr rhyngwladol, gan ddefnyddio cronfa ddata ENIC y DU i gymharu cymwysterau.

• Cydlynu gweithgaredd symudedd myfyrwyr ar draws y Coleg gan gynnwys ceisiadau, adroddiadau a threfniadau teithio. Ymhlith y rhaglenni mae Erasmus+, Cynllun Turing a’r rhaglen newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru, o’r enw Rhaglen Profiad Dysgu Rhyngwladol ar hyn o bryd.

• Yn gyfrifol am reoli’r tîm Rhyngwladol a llwyth gwaith yn absenoldeb Pennaeth yr Adran Ryngwladol.


JOB REQUIREMENTS
Bydd gennych radd neu gymhwyster cyfwerth, profiad proffesiynol priodol, dealltwriaeth o sut i gymhwyso Rheolau a Rheoliadau Mewnfudo (sy’n ymwneud yn benodol â Llwybrau Myfyrwyr) a bydd gofyn i chi ymgymryd â dyletswyddau cydymffurfio eraill.

Mae meddu ar ddealltwriaeth o ddyletswyddau noddi UKVI a gwaith sy’n ymwneud â phrosiectau megis Erasmus+ yn ddymunol iawn.