MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 7 | £34,434 - £39,152
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 7 | £34,434 - £39,152
Cyfle Secondiad tan fis Gorffennaf 2026 - Ceisiwch ganiatâd eich rheolwr cyn gwneud cais am y rôl.Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Rydym yn chwilio am aelod o staff brwdfrydig ac ymroddgar i weithio fel rhan o'r Gwasanaeth Lles Addysg i gefnogi ein gwaith gyda'n dysgwyr sy'n derbyn addysg yn y cartref, a'u teuluoedd.
Bydd y swydd yn galw am y gallu i gefnogi ein dysgwyr ledled Torfaen. Bydd angen cyflawni a chefnogi dyletswyddau statudol mewn perthynas ag Addysg Ddewisol yn y Cartref, yn ogystal â&©r ddyletswydd sylfaenol i sicrhau bod y plant dan sylw yn cael mynediad at addysg sy'n addas i'w hoedran, eu gallu ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd deiliad y swydd yn rhan o'r pwynt cyswllt cyntaf i ysgolion a rhieni/gofalwyr drafod Addysg Ddewisol yn y Cartref. Bydd gennych gyfrifoldeb am roi cyngor ac arweiniad i rieni ynghylch darparu addysg addas, amser llawn ac effeithlon, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn addysg addas. Bydd y swydd hefyd yn cefnogi'r gwaith o gynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi dewis dychwelyd i'r ysgol ar ôl derbyn eu haddysg yn y cartref. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gymryd y camau cyfreithiol priodol os nad yw plentyn yn derbyn addysg addas, gan gynnwys cyflwyno Gorchymyn Presenoldeb Ysgol neu wneud cais am Orchymyn Goruchwylio Addysg lle bo angen.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn cysylltiad agos ag ysgolion, gwasanaethau cymorth ac asiantaethau eraill, i gynllunio ar gyfer disgyblion. Bydd angen sicrhau bod disgybl yn Nhorfaen, waeth beth yw eu cefndiroedd, eu hamgylchiadau neu eu hanawsterau unigol, yn gallu cael y budd mwyaf posibl o'u haddysg.
I gael sgwrs anffurfiol ynglyn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Sarah Allard, Rheolwr y Gwasanaeth Lles Addysg Sarah.allard@torfaen.gov.uk neu 01495 766993, neu Andy Rothwell, Pennaeth Dysgu a Chyflawni Andy.rothwell@torfaen.gov.uk neu 07890915923
Mae'r swydd hon yn destun Cais Datgeliad Uwch i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed a'i hyrwyddo . Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.